Hygyrchedd

Helo.

Croeso i dudalen hygyrchedd Gŵyl Undod 2024. Yma fe gewch chi wybodaeth ddefnyddiol am berfformiadau hygyrch, y lleoliadau a’r cymorth sydd ar gael.

Perfformiadau Hygyrch.

Cynulleidfaoedd Dall a Rhannol Ddall

 

Bydd sain ddisgrifio ar gael ar gyfer rhai perfformiadau am ddim a rhai gyda thocynnau. Y sain ddisgrifwyr ar gyfer Gŵyl Undod 2024 yw Alastair Sill, Jana Bennett-Holesworth, Ellen Groves a Beth House.

Bydd y faner i ddynodi Sain Ddisgrifio ar gyfer y perfformiadau theatr stryd yn las gyda logo Gŵyl Undod ac eicon Sain Ddisgrifio arno. Bydd wedi ei osod ar becyn cefn y disgrifwr sain.

Cliciwch yma am y Rhaglen perfformiadau Sain Ddisgrifio testun plaen

Cynulleidfaoedd Byddar a Thrwm eu Clyw

Bydd cyfieithiad BSL ar gael ar gyfer rhai perfformiadau am ddim a rhai gyda thocynnau.

Nid yw rhai o’n sioeau’n cael eu dehongli ond mae’r cwmnïau wedi dynodi eu bod yn ddi-eiriau neu fod rhywfaint o destun ar lafar mewn iaith wahanol na fyddai’n hygyrch ar unwaith i siaradwyr Cymraeg/Saesneg. Rydym wedi nodi’r sioeau hyn fel rhai “Addas i’r Byddar”.

Chwiliwch am y symbol hwn yn y rhaglen isod.

 

Free festival programme for Deaf Audiences Cliciwch yma am Rhaglen yr Wyl Rhad ac Am Ddim – Dydd Sadwrn 6ed a Dydd Sul 7fed Gorffennaf

Bydd y faner i ddynodi BSL ar gyfer y perfformiadau theatr stryd yn felyn gyda logo Gŵyl Undod ac eicon BSL arno. Bydd y dehonglydd yn ei wisgo ar sach gefn.

Rhagflas BSL.

Y tîm dehongli BSL ar gyfer Gŵyl Undod 2024 yw….

BSL – Y sioeau gyda thocynnau: 

3 Gorffennaf 8pmSkin, Muscle and Bone, Stiwdio Weston WMC. BSL gan Tony Evans.

4 Gorffennaf 8pmUNDRESSED, Stiwdio Weston WMC. Deaf friendly, non-verbal.

4 Gorffennaf 9:30pmComedy Night, Cabaret WMC. BSL gan Sami Dunn.

5 Gorffennaf 8pmCHOO CHOO!, Stiwdio Weston WMC. BSL integredig gan Laura Goulden.

5 Gorffennaf 9:30pmHouse of Deviant – Untied. Cabaret WMC. BSL gan Claire Anderson.

6 Gorffennaf 8pmC’est BEAU! Stiwdio Weston WMC. Deaf friendly, non-verbal.

6 Gorffennaf 9:30pmVaguely Artistic, fel rhan o barti’r ŵyl. Cabaret, WMC. BSL gan Sami Dunn.

Hygyrchedd Lleoliadau.

Cynhelir Gŵyl Undod yn y lleoliadau canlynol eleni: Canolfan Mileniwm Cymru a Chapter yng Nghaerdydd, Pontio ym Mangor a Ffwrnes yn Llanelli. Dyma rai dolenni gwe defnyddiol i’r lleoliadau a gwybodaeth teithio.

Canolfan Mileniwm Cymru: Dilynwch y ddolen hon am Wybodaeth Hygyrchedd Canolfan Mileniwm Cymru.

Chapter: Dilynwch y ddolen hon am Wybodaeth Hygyrchedd Chapter.

Pontio: Dilynwch y ddolen hon am Wybodaeth Hygyrchedd Pontio.

Ffwrnes: Dilynwch y ddolen hon am Wybodaeth Hygyrchedd Ffwrnes.

 

Yn bwriadu ymuno â ni ym Mae Caerdydd?

Parcio Bae Caerdydd:

Red Dragon – dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am barcio: Gwybodaeth Parcio’r Red Dragon

Q-Park – dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am barcio: Gwybodaeth Parcio Q-Park

Os ydych yn cyrraedd ar y trên, dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am orsaf drenau Bae Caerdydd: Gwybodaeth am Orsaf Drenau Bae Caerdydd

Mae’r bws Baycar 6 yn gyflym ac yn uniongyrchol rhwng Canol Dinas Caerdydd a Bae Caerdydd, ac yn gadael bob hanner awr.

Cymorth yn yr ŵyl.

Bydd ein staff a’n gwirfoddolwyr yn bresennol yn yr ŵyl ac yn barod i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau. Gallwch ddod o hyd iddynt yn y Pwynt Gwybodaeth ym mhob lleoliad.

Ein nod yw sicrhau bod Gŵyl Undod yn hollol hygyrch i unrhyw un sydd am ddod iddi. Rydym yn gweithio’n glos gydag Attitude is Everything, elusen sy’n gwella hygyrchedd pobl anabl mewn digwyddiadau byw. Edrychwch ar neu lawrlwythwch ein Gwybodaeth Hygyrchedd Fanwl 2024.