Gŵyl Undod

Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a’r unig un o’i math yng Nghymru. Fe’i crëwyd gennym yn 2008 i ddarparu cyfle i artistiaid anabl ac artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth berfformio ar lwyfan amlwg. 

Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Undod 2024!

Darganfod Mwy

Fidio Hyrwyddol.

Unity Festival 2022.

Ein Gŵyl Undod fwyaf eto, oedd yn cynnwys yr Ŵyl Ffilmiau Undod gyntaf erioed! Aethom â Gŵyl Undod 2022 i Gaerdydd, Bangor a Llanelli a hefyd roi cynnwys ar ein llwyfan ddigidol, Hijinx Mobile. Daeth artistiaid o’r Almaen, Ffrainc, Sbaen ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Darganfod Mwy

Mission Control 2019.

Cyd-gynhyrchiad gyda National Theatre Wales i gyd-fynd â hanner canmlwyddiant glaniad y lleuad. Fe’i perfformiwyd yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ac roedd yn cynnwys dros 80 o berfformwyr, gan gynnwys Actorion Hijinx. Roedd hon yn sioe unigryw.

Gŵyl Undod 2017 – Caernarfon.

Am y tro cyntaf, aethom â Gŵyl Undod i dref hardd Caernarfon, le bu perfformwyr yn meddiannu’r Doc, sgwâr y dref, Canolfan Gelfyddydau Galeri a safle treftadaeth y byd Castell Caernarfon.

Gŵyl Undod 2016- Caerdydd.

Dros gyfnod o bythefnos, bu artistiaid o Sweden, Sbaen, Ffrainc, yr Almaen, Ethiopia a’r Deyrnas Unedig (DU) yn perfformio ledled Caerdydd: yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn theatr The Other Room yn Porter’s, ac yn yr Aes yng nghanol dinas Caerdydd.

Gŵyl Undod 2015 – Caerdydd.

Bu perfformwyr o Mozambique, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Belg, yr Eidal a’r DU yn arddangos rhai o’r goreuon ym myd celfyddydau gan bobl anabl, gan gynnwys theatr glasurol o Sweden, fflamenco, dawns ar thema tecila a theyrnged i Frida Kahlo.

Quote symbol

Digwyddiad y dylai Cymru fod yn falch iawn ohono

Wales Arts Review

Quote symbol

Mae’n dwyn ynghyd rhai o’r celfyddydau cynhwysol gorau o ledled y byd.

Lyn Gardner, The Guardian