Ynghylch Hijinx

Rydym yn gwmni cynhyrchu proffesiynol sy’n gweithio i arloesi, cynhyrchu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer actorion gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Ein hartistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sydd wrth wraidd ein gwaith bob amser, ac maent yn newid amgyffredion o’r hyn y gallai theatr a ffilm fod a sut y dylid eu gwneud yn gyson. Mae perfformiadau sy’n newid y ffordd rydym yn gweld y byd yn berfformiadau rydym yn eu cofio am byth. Dyna beth rydym yn dyheu am ei wneud. 

Mae gwaith Hijinx yn feiddgar, yn fywiog, yn anarchaidd ac yn onest gan fod ein hartistiaid yn feiddgar, yn fywiog, yn anarchaidd ac yn onest. Gyda’n gilydd fel artistiaid, yn niwrowahanol ac yn niwronodweddiadol, rydym yn cyflwyno byd sy’n hyrwyddo cynhwysiant ac yn herio amgyffredion.

Mae ein gwaith yn cael ei fwynhau’n lleol ac yn rhanbarthol, ond mae ganddo enw da am ragoriaeth ledled y byd.

http://An%20academy%20workshop%20with%20attendees%20practising%20vocal%20exercises

Mae ein Hacademïau ledled Cymru yn cynnig hyfforddiant perfformio proffesiynol o safon fyd-eang, ac rydym hefyd yn cynnal cyrsiau a dosbarthiadau wythnosol er mwyn i chi allu dysgu sgiliau bywyd hanfodol drwy ddrama a chyfarfod â phobl newydd.

http://Film%20project%20with%20four%20actors%20and%20two%20cameramen%20standing%20around%20a%20hospital%20bed

Rydym yn cael ein cydnabod am ein rôl fel hyfforddwyr profiadol ac rydym yn cynnig rhaglenni arbenigol arobryn i helpu busnesau a sefydliadau i ddangos eu hymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth. Mae hyn yn grymuso staff â’r hyder a’r sgiliau i gyfathrebu’n dda â chwsmeriaid sy’n agored i niwed, ac yn herio eu hamgyffredion presennol.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith a’n fywydau. Gan ystyried hyn, rydym yn falch i lofnodi Polisi Dim Hiliaeth Cymru Race Council Cymru fel cydnabyddiaeth o'n hymrwymiad i roi cyfle cyfartal i bobl sy'n profi hiliaeth. Ewch i wefan Dim Hiliaeth Cymru isod i gael mwy o wybodaeth am y polisi hwn.

Darllenwch y Polisi