Fel Hijinx ei hun, mae ein rolau gwirfoddoli’n amrywiol, a byddwn yn dod o hyd i rywbeth sy’n gweddu i’ch diddordebau, eich sgiliau a’ch ymrwymiadau amser.
Rydym yn cynnig rolau gwirfoddoli dros dro a pharhaol ac mae rhywbeth i bawb, p’un a yw hynny’n helpu ni gyda digwyddiadau, cynyrchiadau neu godi arian yn y gymuned – neu ymuno ag un o’n lleoliadau i fyfyrwyr.
Beth alla’ i ei wneud.
Os ydych chi dros 18 oed ac yn awyddus i ddysgu rhywbeth newydd, byddem yn hoffi clywed gennych! Gallwch ddewis faint o amser i’w roi, a byddwn yn rhoi’r holl hyfforddiant a chymorth y mae arnoch eu hangen. Does dim angen profiad blaenorol, ond mae’n rhaid i bawb sy’n gwirfoddoli ac yn ymuno â lleoliad profiad gwaith ddilyn ein Cod Ymddygiad ac efallai bydd angen iddynt gael archwiliad DBS Manylach.
Gweithgareddau gwirfoddoli.
Rydym angen cymorth ychwanegol bob amser ar gyfer ein sioeau a’n gwyliau, o staffio stondin wybodaeth Hijinx a dosbarthu rhaglenni, i symud dodrefn. Os ydych chi’n hapusach y tu ôl i’r llenni, gallwch weithio yn ein swyddfa neu ymuno â’n tîm codi arian yn y gymuned. Mae ein lleoliadau myfyrwyr yn darparu cyfle ymarferol i ennill profiad yn y sector celfyddydau, a chyfleoedd rhwydweithio, a phrofiad o weithio’n gynhwysol â phobl ag anableddau dysgu yn ogystal â phobl heb anableddau dysgu – sef profiadau y gobeithiwn y byddant yn aros gyda chi yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Nid yw geiriau’n gallu disgrifio cymaint rwy’n mwynhau Hijinx! Mae gwirfoddoli gyda nhw wedi datblygu fy sgiliau ac wedi rhoi cyfleoedd i mi gadw fy mrwdfrydedd dros y theatr yn fyw. Mae’r perthnasoedd a ddatblygais trwy gydol fy amser gyda nhw yn fythgofiadwy.
Dan (Gwirofoddolwr)
Mae gweithio fel gwirfoddolwr gyda Hijinx yn rhywbeth y byddwn yn ei argymell yn fawr, gan y bydd yn agor eich calon a’ch meddwl a gwneud i chi deimlo bod unrhyw beth yn bosibl mewn bywyd.
Ruth (Gwirfoddolwr)
Beth fydda’ i’n ei gael ohono.
Os byddwch yn penderfynu gwirfoddoli gyda Hijinx, fe gewch chi nifer o fuddion:
- Â Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ag anableddau dysgu
-  Cefnogi’ch cymuned
- Â Datblygu sgiliau trosglwyddadwy defnyddiol
-  Gweithio gyda thîm o bobl ymroddedig, cyfarfod â phobl newydd a datblygu cysylltiadau
- Â Cael profiad proffesiynol gwerthfawr, gwella eich CV a chael geirdaon
-  Bod yn rhan o sefydliad cyffrous sy’n tyfu – mae pob dydd yn wahanol!
-  Gwneud defnydd da o’ch sgiliau unigryw a rhannu eich gwybodaeth
- Â Gwneud gwahaniaeth go iawn
Sut bynnag y byddwch yn gwirfoddoli, byddwch yn rhan o gymuned gefnogol sy’n dod at ei gilydd i drawsnewid bywydau pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod!