Mae ein gwaith yn newid bywydau ein hactorion a’n cyfranogwyr.
Rydym yn gwybod y gwahaniaeth y mae’r celfyddydau a’r theatr yn gallu ei wneud i iechyd a lles pobl.
Mae ein Hadroddiad Effaith diweddar yn dangos ein gwerth economaidd-gymdeithasol i’r celfyddydau, gan archwilio straeon y bobl rydym yn gweithio gyda nhw y mae eu bywydau wedi newid.
Dyma ein heffaith ni. Dyma eu stori newid nhw.
Ni yw’r rhai sy’n creu newid...
Beth yw effaith gymdeithasol?.
Dyma’r newid rydym wedi’i greu ym mywydau ein hactorion a’n cyfranogwyr, eu teuluoedd, staff a sector y celfyddydau. Yn ystod blwyddyn, datgelodd ein hymchwilwyr rai themâu allweddol sy’n gwneud Hijinx mor bwysig fel cwmni theatr gynhwysol cenedlaethol Cymru.
Darllenwch yr adroddiad effaith llawn.
Mae’r Adroddiad ar yr Effaith Gymdeithasol ar gael ar ffurf Fersiwn Lawn, Fersiwn Hawdd ei Deall, a Fersiwn Sain.
Darllenwch y Fersiwn Lawn ymaGwrandewch ar y Fersiwn Sain isod.
Darllenwch y fersiwn Hawdd ei Ddarllen isod.
“O fod yn ferch swil a gostyngedig, na fyddai’n gwneud unrhyw beth, dwi wedi dod yn ferch annibynnol a hyderus sydd â’r hyder i fynd i deithio, ac nid ydyn nhw [fy rhieni] yn gorfod gofidio amdanaf."
Actor gyda Hijinx
“Mae Hijinx yn helpu i ddangos galluogrwydd ein mab i’r byd, a gadael i bobl weld yr hyn a welwn ni bob diwrnod, yn hytrach na dim ond gweld rhywun ag anabledd.”
Rhiant
"Yn syml, mae Hijinx yn creu’r gwaith gorau. Gyda phawb, ar gyfer pawb, i’w gymryd i bob man. Maen nhw wedi gwneud gwaith cynhwysol, sef rhywbeth y dylai pawb ohonom ei wneud.”
Partner mewn Diwydiant
Rydym yn dangos bod y celfyddydau perfformio yn fodd er budd iechyd a llesiant, a chynyddu hapusrwydd ym mywydau pobl.
Mwy am y gwaith ymchwil.
Llwyddodd Hijinx i gyflawni’r gwaith ymchwil hwn diolch i gyllid gan Sefydliad Banc Lloyds. Gwnaed y gwaith ymchwil gan Abigail Tweed – Milestone Tweed a Mark Richardson – Social Impact Consulting. Yn ystod blwyddyn, fe gyfwelon nhw â chyfranogwyr, actorion, eu teuluoedd, staff a gweithwyr proffesiynol sector y celfyddydau.
Hoffech chi wybod mwy am y gwaith ymchwil a’r gwaith yn y dyfodol gyda Hijinx? Cysylltwch ag: eloise.tong@hijinx.org.uk
