Theatr Stryd

Perfformiadau Theatr Stryd a Chrwydrol.

Cymrwch gip ar y perfformiadau theatr stryd am ddim yng Ngŵyl Undod eleni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, 6 – 7 Gorffennaf. Yr amserlen lawn i’w chyhoeddi’n fuan.

The Air Between Us.

Gan Chloe Loftus (Seland Newydd). Perfformiad ar y cyd llawn llawenydd a rhyfeddod a fydd yn cael ei berfformio uwch ben llwyfan Glanfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Crëwyd The Air Between Us gan y dawnsiwr a’r coreograffydd amlwg o Seland Newydd, Chloe Loftus, a’r artist dawns Māori a’r defnyddiwr cadair olwyn, Rodney Bell a enillodd lu o wobrau.

Steamplant Movement.

Gan Shedan Theatre (Eidal) a Danza Mobile (Sbaen). Mae pump o gymeriadau swreal wedi goroesi gorymdaith yr Apocalyps trwy ddinasoedd – ond am beth maen nhw’n chwilio? Sioe orymdaith yn cynnwys clowns, cerddoriaeth, strwythurau agerbync hardd, masgiau a gwaith corfforol trawiadol – dilynwch y symudiad tuag at fywyd newydd llawn gobaith…

Fresta Poética.

Gan Dança sem Fronteiras (Brasil). Yn chwareus a difyr, mae Fresta Poética yn daith sy’n gwneud symudiadau, ystumiau a dawnsiau bach pob corff yn weladwy, a gallu’r corff yng nghyswllt ei amgylchedd.

We Have to Talk | Hem de Parlar.

Gan Compania Vera Cendoya (Catalonia). Sioe stryd dawns-theatr yw HEM DE PARLAR am berthynas mewn teuluoedd a’r gwrthdaro ynddynt. Gyda thrac sain o ddeialogau sinematig ac yn llawn dwyster a hiwmor, mae symudiad We Have To Talk yn mynegi rhywbeth na all gael ei gyfleu trwy eiriau yn unig. Hyn i gyd gyda thrac sain wedi ei greu gan gydweithiwr arferol y cwmni, Adele Madau, yn cynnwys gwahanol ddeialogau sinematig.

Y Gwir | Truth.

Gan Hijinx (Cymru) a Ramshacklicious (Lloegr). Mae’r chwyldro yn cyrraedd – yn llawn gobaith, yn ffyrnig o ddoniol ac ar ymgyrch i amharu ar y norm. Mae’r gynulleidfa’n ymuno yn y gemau, gan archwilio grym a rheolaeth. Mae ymdeimlad rhyfedd o gyffro’n cyniwair, gan uno’r bobl mewn reiat o gariad llawn llawenydd! Mae Y Gwir – Truth yn alwad ar i ni weithredu. A yw’n bryd i chi gael eich rhyddhau?

Pop-Up Pirates.

Gan EGO Arts (Lloegr). Mae Môr Ladron Bae Caerdydd wedi glanio ac maen nhw’n llwglyd. Mae cranc mwyaf blasus y bae yn ymddangos yn apelgar iawn ond mae dwy wylan wedi ei weld hefyd. A gaiff Capten Clam ei swper? A fydd Capten Cobbler yn cael bwyd i’w chriw sydd ar lwgu? A fydd y gwylanod yn ennill y ras? Ymunwch yn yr helfa.

ARNASA TXIKI.

Gan Organik Dantza. : Beth sy’n digwydd i’n hanadlu pan fydd sefyllfa yn effeithio arnom ni? Beth sy’n digwydd pan fydd aer yn mynd i mewn, ond na all ddod allan a phopeth yn stopio am rai eiliadau? Mae Arnasa yn teithio trwy’r holl wahanol deimladau y mae anadlu yn eu creu ynom ni: o’r eiliadau hynny o fod yn hollol lawn lle’r ydym yn teimlo cyswllt cryf; i’r eiliadau tywyll, di-droi’n ôl hynny, pan fyddwn yn teimlo bod y diffyg aer yn ein meddiannu ni, ein hymwybyddiaeth a’n hewyllys.

The Chambermaids.

By Blaumeier-Atelier. Mae merched annwyl Blaumeier ar y ffordd eto! Fel morynion maen nhw’n gofalu am lanweithdra a thaclusrwydd, wrth gwrs, y golch y mae’n rhaid ei sychu, ei droi allan a’i blygu. Mae’r sioe ddoniol, ffraeth ac absẃrd hon yn gweld y morynion yn cael help y gynulleidfa yn y ffordd fwyaf hudolus.

Enter the Robots.

Gan Hijinx (Cymru) a tanzbar_bremen (Almaen). “Helo Bobl. Croeso i’ch dyfodol. Ymlaciwch. Arafwch. Gallwch stopio'r hyn yr ydych yn ei wneud. Nid oes raid i chi weithio bellach. Arhoswch gartref. Rhowch eich traed lan. Mae hyn yn ein dwylo ni. Ni yw’r Robotiaid. Fe wnawn ni ofalu am bopeth o hyn ymlaen.” Yn y dyfodol mae pawb yn cael robot yn anrheg gan eu hawdurdod lleol. Bydd bywyd yn siŵr o fod yn haws!! Beth allai fynd o’i le? Mae Enter the Robots yn sioe theatr stryd chwareus i’r gynulleidfa gymryd rhan ynddi sy’n gofyn, pwy sy’n rheoli go iawn yn oes yr AI? “Petai’r robot yn digwydd camweithredu, sy’n annhebygol, ni fydd eich awdurdod lleol yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb.” Ariennir y prosiect hwn gan Cultural Bridge.

Odyssey.

Odyssey yw grŵp theatr gymunedol Hijinx nad yw’n broffesiynol, sy’n cynnwys cymysgedd o actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ac actorion niwronodweddiadol sy’n perfformio gyda’i gilydd fel partneriaid cyfartal.

Telemachus.

Telemachus yw chwaer-prosiect Odyssey. Mae Telemachus yn grŵp cynhwysol i bobl ifanc sydd â, yn ogystal â heb anableddau dysgu sy'n anturus, ac sy'n caru creu a pherfformio.