Mae ein hyfforddiant cyfathrebu arbenigol yn helpu sefydliadau i ddangos eu hymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth. Yn ein sesiynau diddorol, byddwn yn gweithio gyda’ch staff i ddatblygu eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu.
NEWYDD! Tu Hwnt i Eiriau: Hyfforddiant Cyfathrebu Cynhwysol ar gyfer y Sector Digwyddiadau.
Rydym yn falch o lansio rhaglen hyfforddiant ryngweithiol newydd, Tu Hwnt i Eiriau, a ddyluniwyd i gryfhau cyfathrebu a hygyrchedd ar draws y sectorau digwyddiadau a lletygarwch.
Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Digwyddiadau Cymru, mae’r hyfforddiant penodol hwn yn anelu at wella’r ffordd y mae timau digwyddiadau’n rhyngweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, gan greu profiadau sy’n fwy cynhwysol a chroesawus mewn digwyddiadau ar draws Cymru a thu hwnt.
Arbenigol.
Mae Hijinx ar flaen y gad mewn ymarfer cynhwysol ac rydym yn fedrus iawn o ran helpu timau i fagu hyder i gyfathrebu’n dda â phobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
Unigryw.
Caiff ein hyfforddiant ei ddarparu gan hwyluswyr profiadol Hijinx a bydd eich tîm yn gweithio gydag actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
Gafaelgar.
Mae eich tîm yn gallu ymarfer sgiliau mewn amgylchedd diogel ac anfeirniadol, a threulio amser gydag actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sydd â galluoedd a dewisiadau cyfathrebu gwahanol.
Pwrpasol.
Gallwn addasu ein pecynnau yn ôl eich anghenion chi a’ch busnes. Os na allwch chi ddod o hyd i becyn sy’n addas i chi, cysylltwch â ni a byddwn ni’n ceisio’ch helpu.
Roeddem eisiau cael golwg ysgafn a hwyliog ar yr hyn a all fel arall fod yn bwnc sych, a darparodd Hijinx yr ateb delfrydol.
Cyfreithwyr Hugh James
Mae cwmnïau arloesol fel Hijinx yn chwarae rhan bwysig dros ben o ran newid canfyddiadau ynghylch anabledd
Mae cwmnïau arloesol fel Hijinx yn chwarae rhan bwysig dros ben o ran newid canfyddiadau ynghylch anabledd
ReFocus
Gyda chymorth cyllid gan Cymru Greadigol, rydym yn llawn cyffro o gyhoeddi ein hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd Dysgu newydd i ddiwydiannau’r sgrin.
Darganfod Mwy