Able to Act

'KE LABALABELA HO BA….' (Fy uchelgais yw…).

Ym mis Chwefror 2018, teithiodd pedwar o actorion Hijinx sydd gydag Syndrom Down i Lesotho, sef gwlad yn Affrica lle mae anabledd yn cael ei ystyried yn felltith. Yn ystod y daith, ymunodd pobl leol â’r actorion i berfformio cynhyrchiad Hijinx,  ’KE LABALABELA HO BA….’ (Fy uchelgai yw), a deithiodd o gwmpas safleoedd diwylliannol yn Lesotho. 

Roedd penderfyniad Hijinx i deithio o gwmpas y wlad â chynhyrchiad  a oedd yn cynnwys actorion ag anableddau dysgu amlwg, yn beth beiddgar a dewr. Roedd yn brofiad newydd sbon i’r actorion o Gymru, ac i bawb a gymerodd ran yn y cynhyrchiad. Fe berfformiwyd y sioe i dros 1750 o bobl Basotho ac yr oedd yn llwyddiant ysgubol a wnaeth cael ei nodi pan enillodd Hijinx y Wobr Rhyngwladol gan The Stage (2019).  

Roedd yr ymweliad yn bosibl drwy gyllid gan raglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru drwy Hub Cymru Africa, y Cyngor Prydeinig ac ar y cyd â Choleg Machabeng a Dolen Cymru/Wales Africa Link a Chanolfan Plant Phelisanong.Â