Yn Hijinx rydym wedi ymrwymo i greu gwaith sy’n gwneud gwahaniaeth.
Mae ein cynlluniau’n uchelgeisiol, wedi eu creu ar gyfer, gan a gyda’r cymunedau yr ydym yn gweithio gyda nhw.
Rydym yn angerddol am yr hyn yr ydym yn ei wneud ac mae gennym ymdeimlad cryf o gymuned. Fel tîm rydym yn poeni’n ddwys am deulu ehangach Hijinx ac mae gennym ddiwylliant cynnes, cynhwysol a chefnogol sy’n gadael i bobl fyw eu bywydau gorau, mwyaf dilys. Rydym wedi ymrwymo i ymdrin â diffyg cyfartaledd yn y byd celfyddydol yng Nghymru gan roi actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn ganolog ar draws pob rhan o’n gwaith.
Os ydych yn gydweithiwr sydd eisiau swydd all greu effaith gwirioneddol, darllenwch ymlaen!
Swyddi Gwag.
Rhestrir unrhyw swyddi gwag presennol isod.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Mae Hijinx yn cydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaethau unigolion. Rydym wedi ymrwymo i les ein staff, i fod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, a denu talent amrywiol o rannau o’r gymuned nad ydynt wedi eu cynrychioli’n ddigonol yn y sector diwylliant.
Cynllun Cyfweliad Gwarantedig.
Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu yn Hijinx, rydym yn darparu Cynllun Cyfweliad Gwarantedig i ymgeiswyr nad oes digon o gynrychiolaeth ohonynt ar ein tîm. Gallwch gael eich ystyried dan y Cynllun Cyfweliad Gwarantedig os ydych yn dioddef hiliaeth, yn Fyddar, anabl, yn berson ag anabledd dysgu, niwrowahanol, â chyflwr corfforol neu iechyd meddwl tymor hir, yn LHDTC+ neu yn uniaethu fel rhywun dosbarth gweithiol ar yr amod eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd.
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd am Swydd.
Mae Hijinx ymwybodol o’i ymrwymiadau dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), fel sy’n cael ei nodi ym Mholisi Preifatrwydd Hijinx, ac mae wedi ymrwymo i brosesu eich data yn ddiogel a thryloyw. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi, yn unol â GDPR, y mathau o ddata yr ydym yn ei gasglu a’i gadw amdanoch chi fel ymgeisydd am swydd. Mae hefyd yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth honno, am ba mor hir y byddwn yn ei chadw a gwybodaeth berthnasol arall am eich data personol.
Gwirfoddolwch
Os yw’n well gennych chi fuddsoddi’ch amser, mae gennym nifer o gyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd a dros dro. Hefyd, rydym yn cynnig lleoliadau i fyfyrwyr sydd eisiau ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant celfyddydau.
Gwirfoddoli