Gŵyl Undod yn Llanelli

29 Mehefin

Llanelli.

Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydau cynhwysol ac anabledd mwyaf Ewrop ac mae’n dychwelyd i Ffwrnes ar ddydd Sadwrn 29 Mehefin.

Bydd yr Ŵyl unwaith eto yn dod â diwrnod mawr yn llawn o’r celfyddydau a theatr cynhwysol ac anabledd gorau o bedwar ban byd gan gynnwys:

  • Bydd tanzbar_bremen o’r Almaen yno â’u sioe stryd lawen a hudol FöhnFrisuren
  • Dança Sem Fronteiras o Brasil gyda’u Fresta Poética swynol llawn mynegiant
  • Enter the Robots, prosiect cydweithredol Hijinx gyda tanzbar_bremen

 

Bydd y rhaglen lawn a rhagor o wybodaeth am y sioeau a’r artistiaid ar gael yma ac ar wefan Ffwrnes. Dilynwch @HijinxTheatre ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf fel y bydd yn digwydd.

FöhnFrisuren.

Gan tanzbar_bremen. FöhnFrisuren: Theatr stryd hudolus all ymddangos yn rhywle sy’n dwyn y sgrin fawr i strydoedd Llanelli. Gan ddefnyddio seiniau o ffilmiau enwog, wedi eu cymysgu â rhythmau llawen, wigiau rhyfeddol a chwythwyr dail, mae tanzbar_bremen yn perfformio, byrfyfyrio a chreu golygfeydd o’r ffilmiau i gyffwrdd y galon, elfennau hedfan anturus, brwydrau tanllyd a phob math o sypreisus!

Fresta Poética.

Gan Dança Sem Fronteiras. Yn chwareus a difyr, mae Fresta Poética yn daith sy’n gwneud symudiadau, ystumiau a dawnsiau bach pob corff yn weladwy, a gallu’r corff yng nghyswllt ei amgylchedd. Cefnogwyd y prosiect hwn gan BOLSA FUNARTE DE MOBILIDADE ARTÍSTICA 2023.

Enter the Robots.

Gan Hijinx a tanzbar_bremen. “Helo Bobl. Croeso i’ch dyfodol. Ymlaciwch. Arafwch. Gallwch stopio'r hyn yr ydych yn ei wneud. Nid oes raid i chi weithio bellach. Arhoswch gartref. Rhowch eich traed lan. Mae hyn yn ein dwylo ni. Ni yw’r Robotiaid. Fe wnawn ni ofalu am bopeth o hyn ymlaen.” Yn y dyfodol mae pawb yn cael robot yn anrheg gan eu hawdurdod lleol. Bydd bywyd yn siŵr o fod yn haws!! Beth allai fynd o’i le? Mae Enter the Robots yn sioe theatr stryd chwareus i’r gynulleidfa gymryd rhan ynddi sy’n gofyn, pwy sy’n rheoli go iawn yn oes yr AI? “Petai’r robot yn digwydd camweithredu, sy’n annhebygol, ni fydd eich awdurdod lleol yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb.” Ariennir y prosiect hwn gan Cultural Bridge.