Ein Stori

Sefydlwyd Hijinx ym 1981 gan Gaynor Lougher a Richard Berry, ar ôl gofyn iddynt greu perfformiad ar gyfer Gŵyl Trelái yng Nghaerdydd. Gwnaethant fwynhau’r profiad gymaint fel iddynt ddechrau teithio ledled Cymru â chynyrchiadau bach, gyda’r set a’r gwisgoedd wedi’u stwffio yng nghefn hen gar ystâd. Aeth y cwmni y gwnaethant ei greu gyda’i gilydd â theatr i garreg drws pobl mewn lleoedd nad oes ganddynt y canolfannau celfyddydau hudolus a’r theatrau mawreddog sydd i’w gweld yn ein trefi a’n dinasoedd. Wrth wraidd y cwmni roedd ymrwymiad a chred erioed bod y theatr i bawb. 

Ar ôl teithio fel perfformiwr gyda Hijinx am 11 o flynyddoedd, daeth Gaynor yn Gyfarwyddwr Artistig ym 1994, gan arwain sioeau i’r gymuned anableddau dysgu yn ogystal â chynnal nifer o brosiectau a gweithdai, a sefydlu Odyssey ym 1999, sef grŵp drama cymunedol i oedolion o bob gallu sy’n dal i ffynnu. 

Yn 2004, symudom i Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ac, yn 2006, dechreuom greu sioeau sy’n dewis actorion ag anableddau dysgu ar sail broffesiynol, ochr yn ochr ag actorion heb anableddau.  

Yn 2008, sefydlodd Hijinx Gŵyl Undod yn blatfform ar gyfer celfyddydau cynhwysol ac anabledd o’r radd flaenaf o bedwar ban byd.  

Cyflwynwyd ein Hacademi Hijinx gyntaf yn 2012 i gefnogi ein hymrwymiad i bob un o’n sioeau teithiol proffesiynol gynnwys artistiaid ag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth. 

Yn 2014, cyflwynwyd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig i Gaynor a Richard yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru, fel aelodau sefydlu Hijinx. 

Ar ôl 30 blynedd o wasanaeth ymroddedig i Hijinx, camodd Gaynor yn ôl o’i rôl yn 2015 i ddilyn gyrfa lawrydd fel cyfarwyddwr, actor a hwylusydd gweithdai. Daeth Ben Pettitt-Wade yn Gyfarwyddwr Artistig y flwyddyn honno, ar ôl bod gyda’r cwmni er 2007. Erbyn hyn, Sarah Horner yw ein Prif Swyddog Gweithredol. 

Ac yntau wedi’i sefydlu’n gwmni cydweithredol yn wreiddiol, mae Hijinx yn gwmni nid er elw sy’n gyfyngedig drwy warant erbyn hyn, ac yn elusen gofrestredig.Â