Beth yw Hwylusydd Creadigol? Clywch amdano gan ein hactorion.
Wedi ei ariannu gan Gronfa Sgiliau Cymru Greadigol, Rydym wedi cynnal sesiynau hyfforddi gynyddu a gwella sgiliau’r gweithlu Hwylusyddion Creadigol yng Nghymru.
Swyddogaeth y Hwylusydd Creadigol yw galluogi ymarfer actor ar unrhyw swydd fel ei fod yn gallu cynhyrchu ei waith gorau gan gynnal iechyd corfforol a meddyliol da. Mae natur y swyddogaeth hon yn amrywiol yn aml a gall newid o achos i achos gan ddibynnu ar yr artist unigol ac ar y gwaith. Er mwyn cael gwybod rhagor, darllenwch Manyleb Swydd Hwylusydd Creadigol.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys.
• Atgoffa o ymwybyddiaeth o anabledd, B/byddar a dall gyda Taking Flight (Hyfforddiant ymwybyddiaeth Anabledd, B/byddar gyda Taking Flight)
• Hyfforddiant cyfathrebu
• Dogfennau hygyrchedd
• Beth mae bod yn Hwylusydd Creadigol yn ei olygu
• Sefyllfaoedd ymarferol a chyfyng-gyngor
• Ymarfer Myfyfriol
• Llesiant
Roedd yr hyfforddiant Hwylusydd Creadigol yn newid popeth i mi. Fe wnes i gyrraedd gydag ychydig iawn o wybodaeth am weithio gyda phobl ag anabledd, ac fe wnes i adael wedi fy ysbrydoli, ac yn barod i wneud y gwaith. Fe wnaeth yr hyfforddiant roi’r offer oedd arnaf eu hangen ond fe wnaeth hefyd newid fy safbwynt o ran pwysigrwydd cynhwysiant.
Cyfranogwr Hyfforddiant Hwylusyddion Creadigol
Roedd cael galluogydd creadigol gyda ni ar ein diwrnod ffilmio yn werthfawr tu hwnt…Roedd y broses yn naturiol a chydweithiol – hollol wych!
OnPar Productions
Fe wnaeth y Galluogwyr hwyluso amgylchedd tawel a hamddenol ar y set lle roedd y talent a’r tîm cynhyrchu yn teimlo’n ddiogel a chysurus gyda’i gilydd ac roedd y diwrnod yn anhygoel o llyfn fel canlyniad.
Unquiet Media