Rydym yn gwybod bod gweithred gwerth mwy na geiriau, felly rydym yn cymryd camau i newid sut rydym yn gweithio er mwyn sicrhau bod ni’n cael gwared ar rwystrau systemig ein gwaith a’r gymuned gelfyddydol ehangach.
Niwroamrywiaeth a Gwrthhiliaeth Celfyddydau Cymru (NAWA).
Mae Hijinx, Disability Arts Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddynodi’r problemau a wynebir gan bobl ag anabledd dysgu a rhai niwrowahanol sydd o gymunedau sy’n dioddef hiliaeth, wrth gysylltu neu gymryd rhan yn y celfyddydau. Gyda chefnogaeth Cronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru.
Find out moreEin addewid i Dim Hiliaeth.
Mae amrywiaeth a chynhwysiad yn graidd i ein gwerthoedd yn Hijinx, a byddwn yn parhau i fyw a gweithio ar sail y gwerthoedd yma. Rydym yn falch i ddweud bod ni wedi arwyddo addewid i Dim Hiliaeth gyda Chyngor Hil Cymru.
Find out moreAddewid 1% .
Rydym yn addo i ddyrannu 1% o'n cyllideb flynyddol ar gyfer gweithredoedd sydd yn adeiladu amrywiaeth o fewn y sefydliad, gan wneud e’n rhan actif o'n penderfyniadau busnes. Mi fydd yr arian yn cael ei defnyddio i dalu am ymyriadau amrywiaeth sydd yn ffocysu ar anabledd ac ethnigrwydd. Er enghraifft, bydd yr arian yn cael ei defnyddio i gyflogi sefydliadau amrywiol i ddarparu hyfforddiant neu wasanaethau, i dalu am hysbysebion mewn sefydliadau newyddion anabl neu i gyflogi arbenigwyr recriwtio sydd ag amrywiaeth wrth eu gwraidd.
Hyfforddi .
Er ein bod ni eisiau gweithredu, rydym yn credu hefyd bod hi’n bwysig adeiladu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth fel bod ein staff a'n ymddiriedolwyr efo angerdd i fod yn fwy cynhwysol. Rydym yn gweithio gyda The Other Box, sefydliad hyfforddi anhygoel sydd yn arbenigo mewn amrywiaeth, er mwyn adnabod a herio ein tuedd anymwybodol trwy eu hyfforddiant 'Allyship in the Workplace' a 'Know Your Bias'. Byddwn yn parhau i geisio cael cyfleoedd hyfforddi ar gyfer ein tîm i sicrhau bod ni’n aros yn ymwybodol ac yn parhau i ffocysu ar gael gwared ar rwystrau i'n gwaith a’r celfyddydau ehangach.
Springboard gyda Hwb Cymru Affrica.
Mae Springboard yn brosiect dwy flwyddyn sydd yn bwriadu cefnogi sefydliadau cymunedol Cymru Affrica er mwyn cynyddu gwybodaeth ac i wella arferion mewn datblygiad a dosbarthiad prosiectau, codi arian a rhannu arferion da. Mae’r Springboard Accessibility and Inclusion Group (SAIG) wedi’i phenodi er mwyn darparu cefnogaeth ac arweiniad i’r prosiect yn gysylltiedig i hygyrchedd a chynhwysiad ei gweithgareddau, tŵls ac adnoddau – Mae pennaeth Hijinx PAWB, Job Dafydd-Kidd yn rhan o’r grŵp yma.
Sut rydym yn recriwtio.
Fel rhan o ein hymrwymiad i yrru newid a datblygu gweithlu mwy amrywiol rydym yn adolygu'r ffordd rydym yn recriwtio staff yn drylwyr. Mi fydd y newidiadau yma yn cael ei adlewyrchu mewn unrhyw rolau staff rydym yn hysbysebu yn y dyfodol, ac mi fydd yn effeithio hysbysebu, y proses ymgeisio, cyfweliadau a sefydliad. Mi fydd manylion llawn ar gael fan hyn yn fuan.
Cyfleoedd Hafal.
Mae Hijinx yn adnabod, parchu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau unigol. Rydym yn ymrwymedig i les ein staff, i fod yn gyflogwr Cyfleoedd Hafal, ac i atynnu talent amrywiol o rannau o’r gymuned sydd wedi’i thangynrychioli yn y sector diwydiannol er mwyn helpu ni i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol.
Disability Confident .
Mae Hijinx yn gyflogwr disability confident, wrth recriwtio, rydym yn addo i gyfweld pob ymgeisydd anabl sydd yn cwrdd â meini prawf y swydd wag.
Datganiad Pride.
‘Mae’n hawdd anghofio, os yw’r celfyddydau yn lloches, mae hi dim ond oherwydd bod gwahaniaethu, rhagfarn, casineb a thrais tuag at bobl LHDTQ+ dal yn gyffredin o fewn ein cymdeithas’. Darllenwch ein datganiad mewn cefnogaeth o fis Pride.
Read the blog