Rydym yn newid bywydau pobl ledled Cymru, ond ni allwn ei wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi Hijinx – trwy roi rhoddion untro neu reolaidd, neu gefnogaeth gorfforaethol, neu godi arian yn y gymuned neu ddod yn wirfoddolwr.Â
A ninnau’n elusen gofrestredig, mae arnom angen arian. Rydym yn dibynnu ar haelioni unigolion, ymddiriedolaethau a sefydliadau, busnesau, a’n teulu o wirfoddolwyr rhyfeddol i arloesi, cynhyrchu a hyrwyddo cyfleoedd yn y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Mae Covid-19 wedi gwaethygu’r ynysu cymdeithasol a’r unigrwydd roedd pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth eisoes yn eu hwynebu. Wrth i ni adfer ar ôl Covid, mae’n hollbwysig ein bod yn sbarduno cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu yn y celfyddydau ac mewn cymdeithas, ac yn atal mwy o rwystrau rhag cael eu codi yn y rhuthr i ailadeiladu.
Sut gallwch gefnogi Hijinx
Sut bynnag y dymunwch, mae eich cefnogaeth yn creu profiadau sy’n newid bywyd i’r cyfranogwyr a chynulleidfaoedd; gan greu byd lle mae’r celfyddydau a chymdeithas yn gwbl gynhwysol i bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
Darganfod MwyRydym yn gwybod bod y celfyddydau a theatr yn cael effaith fawr ar iechyd a lles. Trwy gefnogi Hijinx, gallwch ein helpu i wneud y canlynol...
Rhoi profiadau proffesiynol amhrisiadwy i actorion ag anableddau dysgu.
Cynyddu hunan-barch.
Cynyddu dealltwriaeth o anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a sut maen nhw’n cael eu cynrychioli.
Gwella iechyd a lles.
Lleihau ynysu a creu ymdeimlad o berthyn.
Maen nhw’n ei thrin hi â’r parch mwyaf. Yn ystod COVID, fe wnaethon nhw’n siŵr ei bod hi, a ni hefyd, wedi’i chysylltu ac wedi’i hysgogi trwy gydol adeg anodd. Fe wnaethon nhw ein cefnogi a’n helpu i ddyfeisio ffyrdd creadigol o wneud pethau.
Un o rieni Hijinx
Am un diwrnod yr wythnos, mae hi’n hapus iawn ac mae ganddi rywbeth i edrych ’mlaen ato. Doedd ganddi ddim byd fel hyn tan iddi ymuno. Dyma’r unig noson mae hi’n mynd allan ac yn cymdeithasu. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.
Un o rieni Hijin