Theatrau Pobl Ifanc

Mae ein Theatrau Pobl Ifanc ar gyfer pob actor ifanc o’r oed 16+. Rydyn ni’n gweithio’n gynhwysol gydag actorion sydd ag, yn ogystal â heb anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sy’n gweithio gyda’i gilydd fel partneriaid hafal.

PERTHYN

Gwyliwch yr opera ddigidol newydd hon sydd wedi’i chreu gan Music Theatre Wales mewn cydweithrediad â Hijinx a’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw.

Gwyliwch ar YouTube

Yn dilyn y termau ysgol, mae pob Theatr Pobl Ifanc yn gweithio tuag at ddau ddarn o waith pob blwyddyn sydd wedi ei greu gan yr aelodau ac wedi ei chefnogi gan artistiaid proffesiynol.

Theatr Pobl Ifanc y Gogledd (Bangor).

Mae'r grwp yma'n dysgu sgiliau amlddisgyblaethol sy'n anelu i gefnogi grymuso positif, sgiliau hanfodol a hynan-hyder cryf mewn oedolion ifanc ar draws gogledd Cymru. Mae'r sesiynau yn rhedeg o 4.30-6.30yh pob dydd Mercher, yn canolfan celfyddydau Pontio. Mae'r sesiynau yn atyniadol, hwyl ac ar agor i bawb, gydag neu heb anableddau dysgu sydd rhwng 16 – 24 mlwydd oed. Cefnogir gan Plant mewn Angen.

Darganfod Mwy

Telemachus (Caerdydd).

Telemachus yw chwaer-prosiect Odyssey. Wedi ei anelu at unigolion 16 i 24 mlwydd oed, mae Telemachus yn grŵp cynhwysol i bobl ifanc sydd â, yn ogystal â heb anableddau dysgu sy'n anturus, ac sy'n caru creu a pherfformio. Mae'r aelodau yn cwrdd bob dydd Mercher, ynghyd a'r calendr academaidd, i archwilio sgiliau newydd ac i wthio ffiniau eu hunain.

Darganfod Mwy

Quote symbol

Mae Telemachus i mi yn golygu ymdeimlad o berthyn. Lle diogel i fod yn greadigol heb ofni barn na gwaharddiad!

Lia Burton, Aelod Telemachus

Quote symbol

Mae wedi bod yn achubiaeth i mi yn enwedig yn ystod y clo fawr, gweld ffrindiau ar y sgrin, chwarae mewn cymeriad a hefyd mae cael hwyl yn bwysig iawn i mi fel person.

Elain, Aelod Theatr Pobl Ifanc y Gogledd

Quote symbol

Rydyn ni'n gallu rhannu ein newyddion a siarad am bethau gyda'n gilydd ac mae actio a cherddoriaeth ac weithiau'n dawnsio hefyd ac rydyn ni bob amser yn gwneud i'n gilydd chwerthin ac rydyn ni jyst yn ei fwynhau.

Alex Williams, Aelod Telemachus

Ymunwch â ni.

Dysgwch fwy am ein Theatrau Ieuenctid drwy cwbwlhau'r ffurflen isod