Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Undod 2024.
Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a’r unig un o’i math yng Nghymru. Mae Gŵyl Undod yn ôl eleni, 3 – 7 Gorffennaf yng Nghaerdydd, gyda chwaer ddigwyddiad yn Chapter yng Nghaerdydd (4 – 6 Gorffennaf), yn ogystal â rhaglenni cysylltiol ym Mangor (27 Mehefin) a Llanelli (29 Mehefin).
Eleni, bydd y rhaglen gyforiog o ddigwyddiadau, sy’n dod â rhai o’r celfyddydau a theatr cynhwysol ac anabledd gorau o bob rhan o’r byd at ei gilydd, yn digwydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac o’i chwmpas 3 – 7 Gorffennaf ac yn cynnwys:
- perfformiadau stryd am ddim i’r teulu cyfan
- cerddoriaeth fyw
- comedi
- drag
- digwyddiadau theatr a dawns â mynediad trwy docyn
- Ehangu Undod: tri phrofiad trochol a realiti estynedig wedi eu curadu’n arbennig
Bydd Gŵyl Fwyd a Diod Caerdydd hefyd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd o’r 5 i’r 7 o Orffennaf. Anelwch am y Bae i gael perfformiadau stryd am ddim a bwyd blasus – pam na wnewch chi fwyta wrth wylio!
Bydd y rhaglen lawn, gan gynnwys yr amseroedd, yn ogystal â rhagor o wybodaeth am y darnau a’r artistiaid ar gael yma. Dilynwch @HijinxTheatre ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf fel y bydd yn digwydd.
Gwybodaeth Hygyrchedd
Hygyrchedd Gŵyl Undod
Trelar Sain Gŵyl Undod 2024 (Saesneg)
Digwyddiad y dylai Cymru fod yn falch iawn ohono
Wales Arts Review
Mae’n dwyn ynghyd rhai o’r celfyddydau cynhwysol gorau o ledled y byd.
Lyn Gardner, The Guardian
Caerdydd.
Rhaglen Caerdydd

Rhaglenni Cysylltiol.
Trelar Gŵyl Undod 2024.
