ReFocus

Hyfforddiant cynhwysiant i ddiwydiannau’r sgrin

Gyda chymorth cyllid gan Cymru Greadigol, mae ein hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd Dysgu undydd i ddiwydiannau’r sgrin ar gael yn awr.

“Mae gweithio gyda Hijinx yn mynd i helpu pawb i wneud yn well, gwneud mwy a rhoi cyfleoedd gwych”
– Hannah Raybould, Bad Wolf.

Sesiynau ReFocus Gerllaw

Cysylltwch â zade.campbell-davies@hijinx.org.uk i gael gwybod mwy am unrhyw sesiynau sydd i ddod.

Beth yw ReFocus?.

Hyfforddiant cyfathrebu i ddiwydiannau’r sgrin yw ReFocus. Fe’i dyluniwyd i helpu unrhyw un sy’n gweithio yn y sector sgrin, mewn unrhyw adran, i wneud eu harferion gwaith yn fwy cynhwysol i bobl ag anabledd dysgu a/neu awtistig. Mae’r cwrs undydd wedi ei ardystio gan y Gwasanaeth Ardystio CPD a, diolch i Cymru Greadigol, mae ar gael ar gyfraddau gostyngedig neu am ddim hyd ddiwedd Mawrth 2024. “Fe wnes i fwynhau’r cwrs ReFocus yn fawr iawn, cyfle rhyngweithiol i gael trafodaethau agored am bynciau anodd, a sut y gallwn wneud mwy i gefnogi cynhwysiant yn y Diwydiant.” Lowri Farr, Boom Cymru

Beth mae’n ei gynnwys?.

Awyrgylch dawel, groesawus, ymarferion trafod a gweithgareddau agored ac adeiladol, theatr fforwm a chwarae rhan gydag actorion Hijinx. Darperir cinio a lluniaeth hefyd. “Roedd yr amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys y theatr fforwm a chwarae rhan, yn ychwanegu agwedd nad wyf erioed wedi ei phrofi mewn unrhyw sesiwn hyfforddi o’r blaen. Yn fwy na hynny, fe wnes i adael yr hyfforddiant yn llawer mwy hyderus” – Ryan Chappel, S4C

Pam ReFocus?.

Mae’r ffeithiau yn bendant: mae diwydiannau’r sgrin yn bell ar ei hôl hi wrth gynrychioli a chynnwys pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth (Adroddiad Diamond y Rhwydwaith Amrywiaeth Creadigol – the 5th Cut). Sefydlwyd ReFocus i helpu i ddatrys hyn, trwy roi hyder i bobl yn y diwydiant i weithio’n fwy cynhwysol. Trwy hynny, gall lleisiau gwych gael eu clywed, gall talent ryfeddol gael ei rhyddhau, gellir cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach a gellir adrodd storïau mwy cyfoethog. “Roedd y diwrnod ReFocus yn gyfle gwych i drafod syniadau a dysgu sut y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd i wneud y dirwedd gyfryngol yng Nghymru yn fwy cynhwysol.” – Ciron Gruffyd, Rondo Media

Quote symbol

The variety in activities, including the forum theatre and role-play really added a dimension I’ve never experienced in any training session before.

Ryan Chappell, S4C

Quote symbol

I very much enjoyed learning from the scenarios that were demonstrated by the Hijinx actors on the day, and they certainly opened my eyes about what clear and inclusive communication actually means and how to put this into practice.

Sioned Harries, TAC

Quote symbol

I thoroughly enjoyed the ReFocus course, an interactive opportunity to have open discussions about difficult topics, and how we can be doing more to support inclusivity in the Industry.

Lowri Farr, Boom Cymru

Darganfod Mwy.

Get in Touch.

If you would like to learn more, book a place on one of our open sessions or find out how else we can help you, please get in touch.

    This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.