Polisi Preifatrwydd
Mae’r dudalen hon yn rhoi manylion hysbysiad preifatrwydd Theatr Hijinx (“Hijinx”) mewn perthynas â gwybodaeth a gesglir amdanoch chi. Mae Hijinx wedi ymrwymo i ddiogelu’ch preifatrwydd, a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn amdanoch yn unol â Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003 ac, o fis Mai 2018 ymlaen, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Gallai’r polisi hwn newid o bryd i’w gilydd, felly cyfeiriwch ato’n gyson. Mae’r diweddariad hwn yn gyfredol ym mis Gorffennaf 2021.
1. Pwy ydym ni
Cyfeiriad ein wefan yw: cy.hijinx.org.uk/
Sefydliad celfyddydol ac elusen gofrestredig yw Hijinx – rydym yn cynnal cynyrchiadau theatr ac yn gwneud ffilmiau; yn hyfforddi actorion ag anableddau dysgu a/neu actorion awtistig; yn gweithio gyda chymunedau, ac yn darparu hyfforddiant i fusnesau. Rydym yn derbyn cyllid craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) ac yn cynhyrchu incwm ychwanegol trwy gyfuniad o werthu tocynnau, ffioedd hyfforddiant, partneriaethau masnachol, ymddiriedolaethau a sefydliadau, cyrff sy’n rhoi grantiau, rhoddion gan unigolion a gweithgareddau masnachu eraill.
Mae Hijinx yn elusen sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 1078358, ac yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 2161783.
Mae Hijinx yn gyfrifol am y data personol rydych chi’n eu rhoi i ni. Yn ôl cyfraith diogelu data, gelwir hyn yn rheolwr data. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n penderfynu sut i gasglu a defnyddio eich data ac yn gyfrifol am sicrhau bod eich data yn cael eu cadw’n ddiogel a’u defnyddio’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw. Caiff eich data eu prosesu at ddibenion buddiannau cyfreithlon Hijinx wrth weithredu ei fusnes ac, yn benodol, i roi gwybod i chi am ein gweithgareddau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r polisi hwn, cysylltwch â ni, ein manylion cyswllt yw:
Cyfeiriad: Theatr Hijinx, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd, CF10 5AL
E-bost: info@hijinx.org.uk
Ffôn: 02920 300331
Gwefan: cy.hijinx.org.uk/
Cyswllt Diogelu Data: Jacqui Onions, Rheolwr Cyllid
2. Y data personol rydym yn eu casglu a pham rydym yn eu casglu
I gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cytundebol a chyfreithiol, ac er mwyn buddiant dilys ein busnes, rydym yn prosesu data personol gan gyflogeion, gweithwyr, cyfranogwyr, gwirfoddolwyr ac ymgeiswyr. Mae hyn yn cynnwys data yr ystyrir ei fod yn sensitif a allai berthyn i ‘gategorïau arbennig’ data fel y’u diffinnir o dan y GDPR. Mae ‘data personol’ yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth amdanoch. Mae prosesu data personol yn cyfeirio at gasglu, cadw, defnyddio, cyrchu a datgelu fel y bo’n ofynnol, hyd at ac yn cynnwys dinistrio data. Bydd Hijinx yn prosesu data yn unol â’r GDPR a Deddf Diogelu Data (2018) a bydd yn cyfeirio’n rheolaidd at ganllawiau wedi’u diweddaru gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Rydych chi’n rhoi eich gwybodaeth i ni pan fyddwch chi’n:
- archebu ar gyfer mynychu un o’n digwyddiadau,
- diweddaru eich dewisiadau o ran cyswllt,
- gwneud cais am swydd,
- gwirfoddoli,
- ymuno ag un o’n cyrsiau hyfforddiant,
- llenwi arolwg,
- cyfathrebu â ni drwy’r post, e-bost a chyfryngau cymdeithasol.
Yn ogystal, rydym yn cadw eich manylion pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn negeseuon e-bost gennym.
Pan ofynnwn i chi ddarparu eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn rhoi gwybod i chi pam rydym yn gofyn am hyn, a sut y byddwn yn defnyddio eich data, trwy eich cyfeirio at yr hysbysiad hwn.
Gall y wybodaeth bersonol a gasglwn gynnwys:
- Enwau, teitl, dyddiad geni a rhyw
- Gwybodaeth am hil, ethnigrwydd a chyfeiriadedd rhywiol (mae gennych hawl i wrthod rhoi’r wybodaeth hon i ni)
- Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhifau ffôn a dolenni i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol
- Hanes cyflogaeth, geirdaon, cymwysterau
- Copïau o ddogfennau sy’n dangos prawf o’r hawl i weithio
- Manylion unrhyw wiriadau cymwysterau neu ddiogelu y mae’n ofynnol i ni eu cynnal yn ôl y gyfraith
- Gofynion mynediad (er enghraifft, os oes arnoch chi angen mynediad i gadair olwyn, sain ddisgrifio, dehongli Iaith Arwyddion Prydain, neu unrhyw ofyniad arall o ran mynediad) a ph’un ai oes gennych anabledd a ddiffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- Eich dewisiadau o ran y Gymraeg
- Manylion ymweliadau â’n gwefan gan gynnwys data traffig, data lleoliad, system weithredu, y porwr a ddefnyddir, a’r adnoddau rydych chi’n cael mynediad iddynt
- Delwedd a thebygrwydd (wedi’i gipio mewn ffotograffau a fideos a ddefnyddiwn at ddibenion hyrwyddo (noder: gallwn ofyn am gydsyniad penodol ar gyfer defnydd amlwg neu drawiadol, ond nid yn nodweddiadol ar gyfer lluniau grŵp, presenoldeb yn y cefndir neu ar gyfer defnydd mewnol))
- Gwybodaeth gefndir bersonol arall rydych chi’n ei rhoi i ni (er enghraifft, pan fyddwch chi’n gwneud cais am swydd, yn dweud eich stori wrthym, yn rhoi rheswm dros roi rhodd, neu’n gohebu â ni)
Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn prosesu eich data personol (gan gynnwys data personol sensitif) le:
- Mae’n angenrheidiol at ddibenion meddygol (er enghraifft, mewn argyfwng meddygol)
- Mae’n angenrheidiol i ddiogelu eich buddiannau hanfodol chi neu berson arall
- Mae gennym eich caniatâd i wneud hynny (er enghraifft, er mwyn monitro amrywiaeth cynulleidfaoedd a chyfranogwyr Hijinx, neu mewn perthynas â rhaglen hyfforddiant).
Hefyd, byddwn yn gofyn am eich cydsyniad i ddarparu gwybodaeth i chi am gynhyrchion a gwasanaethau a gweithgareddau codi arian a allai fod o ddiddordeb i chi (ar wahân i le mae’n briodol i ni ddibynnu ar ein buddiannau cyfreithlon i wneud hynny).
O ran gwirfoddolwyr ac ymgeiswyr am swyddi, byddwn yn casglu’r lleiafswm data personol sy’n ofynnol i gysylltu â chi, er mwyn i ni allu gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’ch cais i wirfoddoli neu weithio i ni, er mwyn gwarchod ein buddiannau dilys a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol.
Mae’r Elusen yn prosesu’r data hwn ar sail caniatâd penodol gan ein hymgeiswyr ac at ddibenion y rhwymedigaethau cyfreithiol sydd wedi’u gosod arnom. Mae gan yr Elusen rwymedigaeth gyfreithiol i wirio bod gan bob ymgeisydd brawf o’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn ei gyflogi.
3. Sut rydym yn defnyddio eich data
Rydym yn prosesu eich data at rai dibenion busnes cyfreithlon er mwyn rhoi’r profiadau gorau a’r wybodaeth fwyaf perthnasol i chi.
Ni fyddwn yn rhoi eich manylion i sefydliadau trydydd parti er mwyn eu galluogi i gysylltu â chi â gwybodaeth farchnata oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny.
Marchnata
Bydd y Wybodaeth Bersonol rydych chi’n ei rhoi i ni pan fyddwch chi’n dewis derbyn cyfathrebiadau marchnata yn cael ei defnyddio gan Hijinx i roi’r newyddion diweddaraf i chi am ddigwyddiadau a gweithgareddau a drefnir gan Hijinx, a newyddion a gwybodaeth gan Hijinx.
Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i anfon gwybodaeth hyrwyddo a marchnata atoch trwy ddulliau electronig. Gall y mathau hyn o gyfathrebiadau gynnwys:
- deunydd hyrwyddo ar gyfer ein perfformiadau
- rhoi gwybod i chi am gynnyrch, gwasanaethau neu ddigwyddiadau yn ymwneud â Hijinx, fel perfformiadau, dangos ffilmiau, a digwyddiadau
- newyddion a diweddariadau gan Hijinx
- arolygon at ddibenion ymchwil i’r farchnad
- cyflawni ein rhwymedigaethau sy’n deillio o unrhyw gontractau yr ymrwymwyd iddynt rhyngoch chi a ninnau
- darparu gwybodaeth gyfanredol am ein defnyddwyr i randdeiliaid (ond nid i hysbysebwyr)
Mae pob neges e-bost a anfonwn atoch chi yn rhoi’r cyfle i ddatdanysgrifio o’r dewisiadau hyn, neu gallwch chi ofyn i ni wneud hynny drwy anfon neges e-bost at info@hijinx.org.uk.
Recriwtio
Rydym yn casglu data personol am ymgeiswyr trwy’r post, e-bost a chyfryngau cymdeithasol.
Mae’r data’n cael ei wneud yn ddienw cyn llunio rhestr fer trwy ddefnyddio ymgynghorydd Adnoddau Dynol allanol i ddileu rhagfarn o’r broses recriwtio a sicrhau bod ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn cael ei fodloni hyd eithaf ein gallu. Mae’r ymgynghorydd Adnoddau Dynol yn cadw at holl egwyddorion Diogelu Data’r Elusen.
Os na fydd Ymgeisydd yn rhoi data y mae gan yr Elusen rwymedigaeth gyfreithiol i’w gasglu a’i brosesu, ni fyddwn yn gallu symud ymlaen â’r cais.
Bydd Hijinx yn prosesu data categori arbennig yn unol â’n Polisi Diogelu Data. Rhoddir amddiffyniad ychwanegol i ddata categori arbennig ac fe’i defnyddir ar gyfer ymgeiswyr dim ond ar sail caniatâd ac ar wahân pan fydd rhwymedigaeth gyfreithiol yn bodoli ar gyfer yr Elusen. Mae’r GDPR yn diffinio data categori arbennig fel data a allai beryglu hawliau a rhyddid sylfaenol unigolyn. Mae enghreifftiau o ddata categori arbennig yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt: hil; tarddiad ethnig; gwleidyddiaeth; crefydd; aelodaeth ag undeb llafur; geneteg; biometreg (lle y’i defnyddir at ddibenion adnabod); iechyd; cyfeiriadedd rhywiol.
Mae gennych chi hawl i gael copi electronig neu bapur gennym o’r holl Wybodaeth Bersonol sy’n ymwneud â chi, neu i siarad ag un o gynrychiolwyr Hijinx am unrhyw fater, trwy anfon neges e-bost at info@hijinx.org.uk neu ysgrifennu at Hijinx, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, CF10 5AL
Os hoffech chi adolygu’r wybodaeth a ddarparwyd i ni ar unrhyw adeg, neu os ydych chi’n teimlo bod ein cofnodion presennol yn anghywir, gallwch chi ddiweddaru’r wybodaeth trwy anfon neges e-bost at y cyfeiriad uchod.
Os ydych chi’n penderfynu peidio â defnyddio ein gwasanaethau mwyach, neu os ydych chi’n ein cyfarwyddo i roi’r gorau i ddefnyddio eich Gwybodaeth Bersonol fel y nodir yn y Polisi hwn, ac yn rhoi gwybod i ni naill ai ar bapur neu drwy e-bost fel y nodir uchod, byddwn ni’n dinistrio unrhyw Wybodaeth Bersonol a gedwir.
O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y byddwn ni’n gofyn i chi am wybodaeth bellach er mwyn diweddaru ein cofnodion neu at ddibenion penodol. Byddwn ni bob amser yn dweud wrthych chi sut y byddwn ni’n defnyddio unrhyw wybodaeth bellach a dderbyniwn gennych chi.
4. Sut rydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel
Rydym wedi gweithredu gweithdrefnau diogelwch a mesurau technegol i warchod y data personol sydd gennym o dan ein rheolaeth, rhag:
- mynediad heb awdurdod
- defnydd amhriodol neu ddatgelu
- addasu heb awdurdod
Bydd eich data personol yn cael ei ddal a’i brosesu ar systemau Hijinx neu systemau a reolir gan gyflenwyr ar ran Hijinx. Rydym bob amser yn ceisio dal eich data’n ddiogel ac, wrth brosesu pob math o ddata, rhoddir ystyriaeth i’r dull mwyaf diogel o brosesu’r data cyn i’r prosesu ddechrau.
Bydd eich data personol yn cael eu cadw a’u prosesu ar systemau Hijinx neu ar systemau a reolir gan gyflenwyr ar ran Hijinx. Rydym yn ymdrechu bob amser i gadw eich data yn ddiogel. Mae mynediad i wybodaeth cwsmeriaid yn cael ei reoli’n llym. Dim ond pobl sydd angen mynediad er mwyn gwneud eu gwaith sy’n gallu cael mynediad i’n systemau. Mae rheolaeth ychwanegol yn berthnasol i rai data, er enghraifft gwybodaeth sensitif, a dim ond aelodau staff sydd â rheswm i weithio â’r data hyn sy’n cael eu gweld.
Mae copïau caled o ddata’n cael eu cadw’n ddiogel dan glo ac mae data electronig yn cael ei ddiogelu gan gyfrinair a’i amgryptio lle y bo’n briodol.
Gallai data personol gael ei ddal ar ddyfeisiau TG wedi’u seilio ar y cwmwl hefyd, sy’n golygu y gallai data personol gael ei drosglwyddo y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Yn yr achos hwn, bydd y ddyfais TG wedi’i seilio ar y Cwmwl wedi cadarnhau bod ganddi fesurau diogelu priodol ar waith. Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich hawliau preifatrwydd yn parhau i gael eu diogelu fel yr amlinellir yn y polisi preifatrwydd.
Gellir trosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roddwch chi i wledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Os yw Hijinx yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r AEE, byddwn ni’n cymryd camau i sicrhau bod eich hawliau preifatrwydd yn parhau i gael eu gwarchod fel yr amlinellir yn y polisi preifatrwydd.
Byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth dim ond cyhyd ag sy’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn ac i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol. Ni fyddwn ni’n cadw mwy o wybodaeth nag sydd ei angen arnom. Bydd y cyfnod cadw yn amrywio yn ôl y diben. Gellir cadw rhywfaint o wybodaeth am gyfnod amhenodol at ddibenion hanesyddol, ystadegol neu ymchwil.
Rydym yn cadw data ymgeiswyr am swyddi am 3 mis ar ôl i’r broses gyfweld ddod i ben. Os na fyddwn wedi cael cysylltiad ystyrlon â chi o fewn cyfnod o 3 mis, byddwn yn dileu eich data personol o’n systemau oni bai ein bod yn credu’n ddiffuant bod rhwymedigaeth gyfreithiol yn mynnu ein bod yn ei gadw (er enghraifft, mewn cysylltiad ag unrhyw achos cyfreithiol disgwyliedig).
Fodd bynnag, mae gennych chi’r hawl i’w gwneud yn ofynnol i ni ddileu data personol.
5. Trydydd Partïon
Mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgelu eich manylion i drydydd partïon yn yr amgylchiadau canlynol:
- Er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys datgelu i’r heddlu ac asiantaethau eraill sy’n amddiffyn rhag troseddau neu’n canfod troseddau, neu gyrff rheoleiddio
- At ddibenion cydymffurfio rheoliadol neu arolygu, er enghraifft, i’r Comisiwn Elusennau
- Wrth adrodd i gyrff cyllido, yn enwedig Cyngor Celfyddydau Cymru, a all ddefnyddio gwybodaeth bersonol ddienw i ddadansoddi ein gwaith
- I wasanaethau prosesu data sy’n gweithredu yn unol â’n cyfarwyddiadau, ac yn amodol ar rwymedigaethau cyfrinachedd
- Os ydym yn cynnal digwyddiad mewn partneriaeth â sefydliad arall a enwir, fel y gallant ein helpu i redeg y digwyddiad
- I’n cynghorwyr cyfreithiol
Rydym yn casglu ac yn storio data trwy’r systemau a phlatfformau trydydd parti canlynol:
- Mailchimp – rydym yn defnyddio Mailchimp i anfon negeseuon marchnata trwy e-bost ac i alluogi pobl i gofrestru i dderbyn gwybodaeth gennym trwy e-bost ar ein gwefan – mae Mailchimp yn cynnal ein rhestr e-bost at y diben hwn
- Salesforce – ein system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid
- SmartSurvey a Google Forms, ar gyfer llunio arolygon
- Eventbrite – i bobl archebu ar gyfer gweithdai neu weithgareddau
- PayPal – i brosesu rhoddion a wneir ar ein gwefan
- Gett Taxi – i archebu tacsis
- Mae’n bosibl y defnyddir ystod o systemau eraill hefyd
Gellir trosglwyddo’r data a gasglwn gennych i gyrchfan y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“AEE”) a’u storio yno. Mae’n bosibl hefyd y byddant yn cael eu prosesu gan staff sy’n gweithredu y tu allan i’r AEE sy’n gweithio i ni neu i un o’n cyflenwyr. Trwy gyflwyno eich data personol, rydych chi’n cytuno i’r trosglwyddo, y storio neu’r prosesu hwn. Byddwn ni’n cymryd pob cam sy’n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data yn cael eu trin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.
Nid ydym yn gwerthu manylion personol i drydydd partïon at unrhyw ddiben ac ni fyddwn ni’n rhannu eich data personol ag unrhyw sefydliadau neu hyrwyddwyr eraill nad ydynt wedi’u henwi yn ein polisi preifatrwydd at ddibenion eu cyfathrebiadau marchnata eu hunain.
Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn derbyn gwybodaeth o ffynonellau allanol, sy’n ein galluogi i gael dealltwriaeth well o’n cynulleidfaoedd, ein hymwelwyr, a’n cefnogwyr ac i wella ein dulliau codi arian a marchnata.
Mae tudalennau ar wefan Hijinx yn cynnwys dolenni i ddeunydd perthnasol, gan gynnwys gwefannau lleoliadau, at ddibenion prynu tocynnau. Mae gan bob un o’r gwefannau hyn ei hysbysiad preifatrwydd ei hun, ac nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r gwefannau hyn.
6. Cyfryngau Cymdeithasol
Rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyhoeddi negeseuon a diweddariadau am ddigwyddiadau a newyddion. Weithiau, byddwn yn ateb sylwadau neu gwestiynau gennych ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Hefyd, mae’n bosibl y byddwch chi’n gweld hysbysebion gennym ar gyfryngau cymdeithasol sydd wedi’u haddasu ar gyfer eich diddordebau. Gweler pwynt 6, Cwcis, am wybodaeth bellach.
Yn dibynnu ar eich gosodiadau a’r polisïau preifatrwydd a ddefnyddir gan gyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau negeseuon fel Facebook, LinkedIn, Twitter neu Instagram, mae’n bosibl y byddwn yn derbyn gwybodaeth ddemograffig neu ddadansoddol nad yw’n bersonol gan y gwasanaethau hyn sy’n ein galluogi i ddeall cyrhaeddiad ac effeithiolrwydd ein hysbysebu yn well.
7. Eich hawliau diogelu data
Mae cyfraith diogelu data yn rhoi rhai hawliau i chi mewn perthynas â’ch data, gan gynnwys hawl i ofyn i ni am fynediad i’ch data, ei gywiro neu ei ddileu, cyfyngu ar y prosesu a wnawn, a gwrthwynebu’r prosesu a wnawn. Am fanylion pellach am yr hawliau hyn (mae rhai hawliau nad ydynt yn awtomatig, ac sy’n berthnasol mewn rhai amgylchiadau yn unig) gweler gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, www.ico.org.uk
O dan gyfraith diogelu data, mae gennych chi hawliau sy’n cynnwys:
- Eich hawl i fynediad – mae gennych chi’r hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.
- Eich hawl i gywiro – mae gennych chi’r hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth sydd, yn eich barn chi, yn anghywir. Hefyd, mae gennych chi’r hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sydd, yn eich barn chi, yn anghyflawn.
- Eich hawl i ddileu – mae gennych chi’r hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
- Eich hawl i gyfyngu ar brosesu – mae gennych chi’r hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
- Eich hawl i wrthwynebu prosesu – mae gennych chi’r hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.
- Eich hawl i gludadwyedd data – mae gennych chi’r hawl i ofyn i ni drosglwyddo eich gwybodaeth i sefydliad arall, neu i chi, mewn rhai amgylchiadau.
- Nid yw’n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os ydych chi’n gwneud cais, mae gennym ni fis i ymateb i chi.
Cysylltwch â ni yn info@hijinx.org.uk neu drwy ysgrifennu at Hijinx, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, CF10 5AL, os ydych chi’n dymuno gwneud cais.
Sut i gwyno
Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd os ydych yn anfodlon â’r ffordd rydym wedi prosesu’ch data.
Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113