Gŵyl Undod ym Mangor

27 Mehefin

Bangor.

Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydau cynhwysol ac anabledd mwyaf Ewrop ac mae’n dychwelyd i Pontio, Bangor ar ddydd Sadwrn 27 Mehefin.

Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Undod ym Mangor i brofi celfyddydau cynhwysol ac anabledd o bedwar ban byd, gyda chymysgedd o berfformiadau am ddim, cyhoeddus, stiwdio ac yn yr awyr agored.

  • Bydd tanzbar_bremen o’r Almaen yno â’u sioe stryd lawen a hudol FöhnFrisuren
  • Dança Sem Fronteiras o Brasil gyda’u Fresta Poética swynol llawn mynegiant.
  • Enter the Robots, prosiect cydweithredol Hijinx gyda tanzbar_bremen
  • Perfformiadau amrywiol i ysgolion gan gynnwys Taking Flight gyda’u cyd-gynhyrchiad â Pontio Mae Gen Ti Ddreigiau / You’ve Got Dragons
  • Yn ogystal â sioe ddidwyll a gwahanol Daryl and Co – A Square World

 

Bydd y rhaglen lawn a rhagor o wybodaeth am y sioeau a’r artistiaid ar gael yma ac ar wefan Pontio. Dilynwch @HijinxTheatre ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf fel y bydd yn digwydd.

FöhnFrisuren.

Gan tanzbar_bremen. FöhnFrisuren: Theatr stryd hudolus all ymddangos yn rhywle sy’n dwyn y sgrin fawr i strydoedd Bangor. Gan ddefnyddio seiniau o ffilmiau enwog, wedi eu cymysgu â rhythmau llawen, wigiau rhyfeddol a chwythwyr dail, mae tanzbar_bremen yn perfformio, byrfyfyrio a chreu golygfeydd o’r ffilmiau i gyffwrdd y galon, elfennau hedfan anturus, brwydrau tanllyd a phob math o sypreisus!

Fresta Poética.

Gan Dança Sem Fronteiras. Yn chwareus a difyr, mae Fresta Poética yn daith sy’n gwneud symudiadau, ystumiau a dawnsiau bach pob corff yn weladwy, a gallu’r corff yng nghyswllt ei amgylchedd. Cefnogwyd y prosiect hwn gan BOLSA FUNARTE DE MOBILIDADE ARTÍSTICA 2023.

A Square World.

Gan Daryl & Co. Yn sioe berffaith ar gyfer plant 3-6 oed, mae A Square World yn stori onest, deimladwy a hynod am dri ffrind a sut maen nhw'n addasu eu byd er mwyn iddyn nhw allu parhau i chwarae gyda'i gilydd. Mae’r stori ddi-eiriau hon yn edrych ar yr annhegwch o gael eich gadael allan mewn byd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer pawb ond chi eich hun, ac yn defnyddio dylunio syml a thrin gwrthrychau i greu byd llawn dychymyg lle gall unrhyw beth ddigwydd.

Enter the Robots.

Gan Hijinx a tanzbar_bremen. “Helo Bobl. Croeso i’ch dyfodol. Ymlaciwch. Arafwch. Gallwch stopio'r hyn yr ydych yn ei wneud. Nid oes raid i chi weithio bellach. Arhoswch gartref. Rhowch eich traed lan. Mae hyn yn ein dwylo ni. Ni yw’r Robotiaid. Fe wnawn ni ofalu am bopeth o hyn ymlaen.” Yn y dyfodol mae pawb yn cael robot yn anrheg gan eu hawdurdod lleol. Bydd bywyd yn siŵr o fod yn haws!! Beth allai fynd o’i le? Mae Enter the Robots yn sioe theatr stryd chwareus i’r gynulleidfa gymryd rhan ynddi sy’n gofyn, pwy sy’n rheoli go iawn yn oes yr AI? “Petai’r robot yn digwydd camweithredu, sy’n annhebygol, ni fydd eich awdurdod lleol yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb.” Ariennir y prosiect hwn gan Cultural Bridge.

Theatr Pobl Ifanc y Gogledd Hijinx.

Mae'r grwp yma'n dysgu sgiliau amlddisgyblaethol sy'n anelu i gefnogi grymuso positif, sgiliau hanfodol a hynan-hyder cryf mewn oedolion ifanc ar draws Gogledd Cymru.