Theatr Stryd

Casgliad o sioeau un act hynod o ddifyr, yn ymweld â chyntedd, caffi, stryd neu gae yn agos i chi.

Newydd! Y Gwir – Truth.

Rydym wedi uno gyda Ramshacklicious, criw theatr anarchaidd sy’n creu helynt o’r De Orllewin sy’n creu profiadau theatraidd o safon uchel, chwyldroadol, cyfoes i ddod â ‘Y Gwir – Truth i chi, perfformiad awyr agored crwydrol gan griw o saith o bobl chwareus sydd am greu helynt. Ychydig mwy am y sioe…Mae’r chwyldro yn cyrraedd – yn llawn gobaith, yn ddoniol iawn ac ar ymgyrch i amharu ar y norm cyhoeddus. Mae’r gynulleidfa’n ymuno yn y gemau, i archwilio grym a rheolaeth. Mae ymdeimlad rhyfedd o gyffro’n byrlymu, gan uno’r bobl mewn ffrwydrad llawen o gariad! Mae Y Gwir – Truth yn alwad ysgafn i chi weithredu. A yw’n bryd i chi gael eich gollwng yn rhydd?

Y Gwir

Grumpy Unicorns.

Mor brydferth a lloergan, mae gan uncyrn lle arbennig yn ein dychymyg torfol. Ac mae’n troi allan ei bod nhw yn bodoli! Ond, mae gyda nhw asgwrn i’w grafu. “’Dy ni’n uncyrn, jyst gad ’e fod. ’Dy ni’n gwybod de da chi moyn: i roi maldod i ni a thynnu lluniau a defnyddio’n hud ni. Ond, ’dy ni ’di cael digon! Jyst gad i ni fod.” Mae Grumpy Unicorns yn jyst hynna, yr hud o ddarganfod bod uncyrn yn bodoli (!), a'r ganlyniad o dynoliaethyn methu i’w cymryd nhw o ddifrif. Dyma un cwmni crwydrol sy’n llewyrchu ac yn BWDLYD fel na welsoch erioed o’r blaen.

The Astronauts.

Yn gwisgo wisg gofod llawn, mae criw o ofodwyr ddirgel yn lanio ar blaned newydd, ac yn ddarganfod ei fod nhw ddim unig. Mae chwe fforwyr di-ofn yn ceisio ddod i nabod y byd newydd diarth y maent yn ei ddarganfod ei hunain ynddo.

Rock Cliché.

“We’re getting the band back together!” Ymhell cyn bod dewin a chynorthwy-ydd, golffiwr a chadi neu wleidydd ac embaras, roedd y seren roc a’r “roadie”. Rydym yn cwrdd â’n seren roc, Rocky Legend a’i “roadie” truenus, Dave, ar ôl i bob aelod o’r band farw’n drasig mewn damweiniau ar y llwyfan… A fydd hi'n bosib i'r sioe mynd yn ei flaen? Yn Rock Cliché, mae Rocky a Dave yn chwarae gyda'ch synhwyrau drwy cyfrwng y gitâr aer. A'r drymiau aer. A'r allweddell aer. Rock on!

http://The%20actors%20in%20pyjamas%20lean%20on%20one%20another%20as%20though%20asleep

Sleepwalkers.

Palmant, polyn lamp, car neu ffenstr siop – mae'r rhain i gyd yn gasgliad delfrydol ar gyfer yr orymdaith ryfedd hon o gerddwyr sy'n crwydro yn eu cwsg. Mae cannoedd o berfformwyr lleol ynghyd ac artistiad o Hijinx (Cymru), ClownBaret (Sbaen) a Koert Dekker (Yr Iseldiroedd) wedi gweithio gyda'i gilydd mewn dinasoedd ar draws Ewrop i gyflwyno perfformiad crwydrol yma gyda chyfeiliant cerddorol byw. Pwy a wyr, efalli y byddent yn disgyn i gysgu mewn dref yn agos i chi yn fuan!

Planet-X Radio (yn dod yn fuan).

Dewch mewn i'n stiwdio garafán gweglyd, lle mae tîm ffyddlon o dri angen cymorth i recordio'r effeithiau 'foley' ar gyfer drama radio. "Mae planed yn darganfod ei fod am gael ei wladychu. Ond pam ei fod nhw angen planed newydd, ac a ydyn nhw'n haeddu un?" Pan mae'r gynulleidfa'n camu mewn i'r stiwdio garafán, maent yn cymryd rhan artistiaid 'foley' ar gyfer drama radio hen ffasiwn. Mae darnau o seleri yn troi'n esgyrn sy'n torri, a ffoil alwminiwm yn creu taranau. Pwy a ŵyr i ba gyfeiriad tywyll yr eith y ddrama hon…