Ynglŷn â’r sioe.
"Helo bobl. Croeso i’ch dyfodol. Ymlaciwch. Arafwch. Gallwch stopio'r hyn yr ydych yn ei wneud. Nid oes raid i chi weithio bellach. Arhoswch gartref. Rhowch eich traed i fyny. Mae popeth yn ein dwylo ni. Ni yw’r Robotiaid. Fe wnawn ni bopeth o hyn ymlaen.” Yn y dyfodol, mae pawb yn cael anrheg o robot gan eu hawdurdod lleol. Does bosibl na fydd bywyd yn llawer haws! Beth allai fynd o’i le? Mae Enter the Robots yn sioe theatr stryd chwareus, gyfranogol sy’n gofyn pwy sy’n rheoli pwy yn oes Deallusrwydd Artiffisial? Cyllidwyd y prosiect yn wreiddiol gan Cultural Bridge.
Gwybodaeth i’r Rhaglen.
Argymhellir ar gyfer rhai 6 oed a hŷn. Hyd yn 30 munud. Yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau a digwyddiadau awyr agored sydd am gynnig perfformiad cyfranogol fel rhan o’u digwyddiad. Cyflwynir Enter the Robots fel gweithdy cyfranogol gyda chymysgedd o berfformwyr Hijinx a pherfformwyr lleol, gan arwain at berfformiad. Ar gael i’w archebu i deithio’n fyd-eang. I drafod sut y gallai Enter the Robots weithio i chi, cysylltwch â ni.
Cysylltwch â ni ymaCast a Chriw Hijinx.
Mae hwn yn gynnig cyfranogol y gellir addasu ei faint, fel y cyfryw bydd maint y cast a’r criw yn amrywio o sioe i sioe, gan ddibynnu ar y gofod a’r nifer o gyfranogwyr posibl. Gall Hijinx deithio gyda Lleiafswm: 6 aelod o’r cast, Uchafswm: 10 aelod o’r cast. Bydd 4 aelod o’r criw yn teithio gyda’r sioe bob amser.
Gofynion Technegol.
Angen man cysylltu PA Stereo gyda jac 3.5mm, i’w ddarparu gan yr ŵyl / lleoliad / trefnydd. Hefyd lle i ymarfer a mynediad at beiriant gwnïo. Gofod perfformio o 12m (lled) x 6m (dyfnder) yn ofynnol ar gyfer y perfformiad. Mae rhyngweithio â’r gynulleidfa ac mae’n cyfranogi.
Trelars.
Tîm Creadigol.
Ben Pettitt-Wade
Cyfarwyddwr Artistig Hijinx
Corrina Mindt
Cyfarwyddwr Artistig tanzbar_bremen
Bron Davies
Cynhyrchydd
Tom Ayres
Rheolwr Cynhyrchiad
Kelly Bannister
Dylunydd Gwisgoedd
Helena Goldberg
Cynorthwyydd Gwisgoedd
Roedd ein plant wrth eu boddau, roedden nhw’n meddwl ei fod yn hudol!
Aelod Cynulleidfa
Un o’r pethau gorau yr wyf wedi ei weld hyd yn hyn.
Aelod Cynulleidfa
Rhyfeddol a rhyngweithiol.
Aelod Cynulleidfa