Rhoi Rhodd

Mae ein Hadroddiad Effaith Gymdeithasol yn dangos bod pob £1 a fuddsoddir yn Hijinx yn cynhyrchu £4.84 o werth cymdeithasol. Mae hyn yn golygu y bydd rhodd o £10 y mis yn werth mwy na £48 y mis i’r bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth rydym yn gweithio gyda nhw, eu teuluoedd a’r gymuned anableddau dysgu ehangach.

Pam cyfrannu rhodd.

Mae pob rhodd yn cefnogi ein gwaith i greu theatr a ffilm eithriadol a rhoi cyfleoedd i oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth gymryd rhan yn y celfyddydau.

Rhoi drwy CAF Donate

Clywch gan ein Hactorion a’n Cyfranogwyr am yr effaith y bydd eich rhodd yn ei chael.

Quote symbol

Mae cwmnïau arloesol fel Hijinx yn chwarae rhan bwysig dros ben o ran newid canfyddiadau ynghylch anabledd.

Rosemary Squire OBE, Sylfaenydd Ambassador Theatre Group

Quote symbol

Fy ffrindiau yn Hijinx – maen nhw fel teulu i fi.

Un o actorion Hijinx

Quote symbol

Fe aethon ni at Hijinx oherwydd bod ganddyn nhw enw arbennig o dda. Fe aethon ni atyn nhw oherwydd ein bod yn gweithio yng Nghaerdydd, ac rydyn ni’n ffodus i gael sefydliad medrus ar ein trothwy.

Partner Diwydiant

Quote symbol

Mae wedi rhoi hyder iddi. Mae hi wedi bod yn dysgu ac mae ei hunan-barch a’i hyder wedi cynyddu. Mae hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â Hijinx. Mae hi’n gallu cyfleu ei theimladau. Maen nhw’n cael hyder i ddefnyddio eu cryfderau.

Un o rieni Hijinx

Quote symbol

Fe wnes i lawer o deithio. Fe ddechreues i addasu, ac roedd yn gyffrous iawn. Un tro, fe wnaethon ni berfformiad yn Ffrainc am un o’r gloch y bore! Mae Hijinx yn eich dysgu sut i fod yn broffesiynol. Rydw i nawr yn berson annibynnol sy’n hyderus i deithio

Un o actorion Hijinx

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am gyfrannu rhodd i Hijinx, cysylltwch â ni.