Dewch i gyfarfod Yr Ensemble – cydweithfa gyntaf Cymru o artistiaid theatr ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sy’n barod i ysgwyd byd y theatr.
Cadwch gysylltiad – dyma theatr na welsoch ei thebyg o’r blaen!.
Bydd y grŵp hwn o wyth o berfformwyr talentog yn cydweithio gyda Chyfarwyddwr Artistig Hijinx (Ben Pettitt-Wade) ochr yn ochr ag Artist Cysylltiol Hijinx (Richard Newnham) a chyfres o weithwyr creadigol gwadd i gryfhau eu sgiliau a dyfnhau eu dealltwriaeth o’r diwydiant theatr. Gan ymestyn tu hwnt i berfformiad llwyfan, cynlluniwyd yr Ensemble i ddarparu archwiliad cynhwysfawr o’r broses gyfan o greu theatr.
Beth sy’n gwneud yr Ensemble yn wahanol? Nid myfyrwyr na rhai dan hyfforddiant yw’r artistiaid hyn – maent yn weithwyr proffesiynol sy’n cael tâl. Yn ystod contract dwy flynedd, byddant yn treulio amser penodol yn ymchwilio, datblygu a siapio eu prosiectau eu hunain. Mae’n ddull newydd sy’n rhoi mwy o reolaeth greadigol iddyn nhw a’r cyfle i ddwyn syniadau newydd, blaengar i’r llwyfan.
Mae’r llam hon ymlaen yn adeiladu ar raglen Academi lwyddiannus Hijinx, sydd wedi hyfforddi dros 70 o artistiaid niwrowahanol ers 2012. Er bod yr Academi wedi helpu i ddatblygu cynyrchiadau a enillodd wobrau fel Meet Fred a The Flop, mae’r Ensemble yn gadael i Hijinx ganolbwyntio ar ei artistiaid mwyaf profiadol, gan roi amser a lle iddyn nhw arbrofi ac arwain ar waith newydd.
Mae’r nod yn syml: grymuso’r artistiaid hyn, talu’n deg iddyn nhw am eu talent, a chynnig y llwyfan y maen nhw’n ei haeddu iddyn nhw. Ar hyd y ffordd, byddant yn archwilio syniadau newydd, yn cael ysbrydoliaeth artistig trwy deithiau i weld sioeau, a helpu i siapio dyfodol theatr gynhwysol yng Nghymru.
Gyda’r Ensemble, mae Hijinx yn gwthio ffiniau creadigrwydd ac yn rhoi llais i genhedlaeth newydd o arweinwyr niwrowahanol.