Academi Hijinx yw’r unig gwrs hyfforddi perfformio proffesiynol yng Nghymru i actorion ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth ac rydym yn darparu cyfleoedd na fyddech yn dod o hyd iddyn nhw yn unrhyw le arall.
Mae’r Academi yn creu rhwydwaith i Gymru gyfan o actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
Byddwn yn eich paratoi ar gyfer gwaith fel perfformiwr proffesiynol ac yn rhoi cyfleoedd i berfformio mewn theatr, ffilmiau a phrosiectau teledu gyda Hijinx a chwmnïau eraill.
Yna bydd artistiaid a hyfforddwyd trwy’r Academi yn cael eu hargymell i’r diwydiannau llwyfan a sgrin trwy ein llwyfan gastio, Actorion Hijinx.
Beth fyddaf i’n ei ddysgu?.
Byddwch chi’n dysgu sgiliau gan gynnwys paratoi ar gyfer clyweliadau, theatr gorfforol, chwarae rôl, gwaith byrfyfyr, clownio, gwaith masg, dawns, ac actio ar gyfer y sgrin a radio – a byddwch chi’n magu llawer o hyder.
Pwy sy’n ein haddysgu ni?.
Mae ein hathrawon yn berfformwyr proffesiynol medrus a phrofiadol iawn sy’n gweithio yn y diwydiant. Mae staff mewn rhanbarthau gwahanol ledled Cymru yn llunio cyrsiau gan ddefnyddio arbenigedd, cysylltiadau a gwybodaeth leol.
Ble gallaf i hyfforddi? .
Mae gennym bedair Academi ar draws Cymru – yng Nghaerdydd, yr Wyddgrug, Caerfyrddin ac Aberystwyth, gyda Chaerdydd yn trefnu dau grŵp Academi.
Darganfod fwy.
Holl wybodaeth am pryd a lle mae dosbarthidau yn digwydd, pa fath o weithgareddau rydyn ni'n rhedeg ac unrhyw costau sydd ynghlwm.
Rhagor o Wybodaeth