Mae tîm Hijinx yn fach, ond yn ystwyth, ac yn cyflawni’n uwch o lawer na’r disgwyl.
Rydym yn datblygu ac annog ein gweithwyr i dyfu yn eu rolau a bod y gorau y gallant fod. Anelwn at ymagwedd gydweithredol at waith lle mae aelodau staff yn helpu a chefnogi ei gilydd mewn unrhyw ffordd sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y cwmni’n cael ei gynnal yn ddidrafferth a bod y gwaith yn cael ei gyflawni.
Os yw hyn yn swnio fel sefydliad a phwrpas yr hoffech fod yn rhan ohono, darllenwch ymlaen!
Swyddi Gwag.
Rhestrir unrhyw swyddi gwag presennol isod.
Yn anffodus, ni allant ymateb i ymholiadau damcaniaethol ar gyfer rolau – ond mae’r holl gyfleoedd sydd ar gael wedi ei rhestru yma ar ein tudalen swyddi.
Ni allwn hefyd derbyn CVs (heblaw am y rhai a ofynnir amdanynt) neu gadw CVs ar ffeil, ond fe allwch weld ein gwefan ar gyfer cyfleoedd neu ein dilyn ni ar LinkedIn, Instagram neu Facebook.
O bryd i’w gilydd, rydym yn cyflogi ymgynghorwyr ymroddedig a phrofiadol ar gyfer cymorth wedi’i dargedu ar brosiectau arbenigol.

Cydlynydd: Ymgysylltu Creadigol + Chelfyddydau’r Awyr Agored.
Ydych chi’n rhywun sy’n dod â fflach greadigol a threfn dawel i’ch gwaith? A ydych yn ffynnu ar gynlluniau clir a llawenydd annisgwyl? A ydych wedi eich cyffroi gan theatr sy’n digwydd yn yr awyr agored, mewn mannau cymunedol, ac mewn ffyrdd sy’n croesawu pawb?
Darganfod Mwy
Gynorthwyydd Cyllid.
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cyllid amryddawn i ymuno â’n tîm a helpu i gyflawni gweithrediadau cyllid llyfn, prydlon a chywir o ddydd i ddydd. Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi rhediadau talu, anfonebu, cysoni, cadw llyfrau a gweinyddu ariannol ar draws Hijinx.
Darganfod Mwy
Cyfleoedd Hafal.
Mae Hijinx yn cydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaethau unigol. Rydym wedi ymrwymo i les ein staff, i fod yn gyflogwr cyfle cyfartal, ac i ddenu talent amrywiol o bob rhan o’r gymuned sy’n cael ei thangynrychioli yn y sector diwylliant ar hyn o bryd i’n helpu i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol.

Disability Confident .
Mae Hijinx yn gyflogwr disability confident, wrth recriwtio, rydym yn addo i gyfweld pob ymgeisydd anabl sydd yn cwrdd â meini prawf y swydd wag.
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeiswyr am Swyddi.
Mae Hijinx yn ymwybodol o’i rwymedigaethau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), fel yr amlinellir ym Mholisi Preifatrwydd Hijinx, ac mae wedi ymrwymo i brosesu’ch data’n ddiogel ac yn dryloyw. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn amlinellu, yn unol â’r GDPR, y mathau o ddata rydyn ni’n eu casglu a’u dal amdanoch fel ymgeisydd am swydd. Mae hefyd yn amlinellu sut rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth honno, am ba mor hir y byddwn yn ei chadw a gwybodaeth berthnasol arall am eich data.
Gwirfoddolwch
Os yw’n well gennych chi fuddsoddi’ch amser, mae gennym nifer o gyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd a dros dro. Hefyd, rydym yn cynnig lleoliadau i fyfyrwyr sydd eisiau ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant celfyddydau.
Gwirfoddoli