Eye See Ai Lansio Ap

Eye See Ai: Hijinx yn Lansio Ap Realiti Estynedig fel rhan o Brosiect Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol

Mae’r cwmni theatr cynhwysol, Hijinx, wedi bod yn gweithio ar brosiect ymchwil a datblygu blaengar, mewn partneriaeth â’r cwmnïau o Fietnam, Mắt Trần Ensemble, Tòhe a VTT. Mae’r prosiect, a elwir yn Eye See Ai, wedi gweld y cwmnïau’n cyd-weithio i greu chwe pherfformiad digidol byr yn cynnwys artistiaid ag anabledd dysgu a/neu Awtistig, y gellir yn awr ei brofi fel realiti estynedig trwy ap ffôn clyfar a ddatblygwyd yn arbennig. Mae hwn yn faes newydd i’r tîm, sydd wedi bod yn arbrofi gyda’r dechnoleg am y 2 flynedd ddiwethaf ac sy’n edrych ymlaen at rannu’r canlyniadau gyda chynulleidfaoedd yn Hanoi a Chaerdydd. Cefnogwyd Eye See Ai gan Gronfa Gydweithio Digidol y Cyngor Prydeinig, ac mae ar gael i gynulleidfaoedd ei ddarganfod o 5 Tachwedd.

Pwy sy’n cymryd rhan?

Hijinx yw un o gwmnïau cynhwysol mwyaf blaengar Ewrop, sy’n creu celfyddyd eithriadol gydag actorion ag anabledd dysgu a/neu awtistig ar y llwyfan a’r sgrin. Mae’r cwmni sy’n cydweithio o Fietnam Mắt Trần Ensemble yn grŵp o bypedwyr o Fietnam, sy’n dilyn gweledigaeth o gelfyddydau perfformio cynhwysol, gan gysylltu pobl a dwyn celfyddyd yn nes at gymunedau sydd ar y cyrion. Mae Tòhe, menter gymdeithasol sydd â’r genhadaeth o greu meysydd chwarae creadigol i blant dan anfantais, yn cefnogi artistiaid ifanc awtistig i ddysgu a datblygu trwy amrywiaeth o weithgareddau addysgol a chelfyddyd weledol. Mae’r partneriaid technegol VTT, sydd wedi adeiladu’r ap Eye See Ai, yn darparu technoleg realiti estynedig i greu profiadau dilys mewn gofodau cyfarwydd.

Rhagor am y prosiect:

Prosiect ymchwil yw Eye See Ai, sy’n anelu at gynnig cyfle ar gyfer cyfnewid diwylliannol gan fod cynulleidfaoedd yn cael y cyfle i grwydro Hanoi a Chaerdydd gan ddefnyddio technoleg realiti estynedig. Mae’r ap yn cynnwys chwe pherfformiad byr, tri i’w darganfod ym mhob dinas, wedi eu hysbrydoli gan y nodweddion a ddewiswyd. Bydd actorion Hijinx Victoria Walters, Becky King a Gareth John yn cael eu cludo i dri o leoliadau amlwg Hanoi, tra bydd perfformwyr Mắt Trần i’w gweld mewn tri lleoliad yng nghanol dinas Caerdydd. Mae’r perfformiadau symud a phypedau hyn wedi eu dyfeisio gan hwyluswyr ac actorion Hijinx, ochr yn ochr â phypedwyr a chyfranogwyr Mắt Trần. Mae’r cyfansoddwr a enillodd wobr BAFTA Cymru Tic Ashfield a’r cyfansoddwr o Fietnam Nguyễn Hồng Nhung (a elwir hefyd yn Sound Awakener) wedi creu traciau sain unigryw i gyd-fynd â’r perfformiadau.

Ar ôl i chi lawrlwytho’r ap, mae’r perfformiadau’n cael eu tanio wrth i chi anelu eich ffôn clyfar at y gwahanol dirnodau yn y dinasoedd perthnasol. Yng Nghaerdydd, y lleoliadau yw Clwb Ifor Bach, y Llew ar y Mur Anifeiliaid ger Castell Caerdydd, a’r ffrâm bren ger Cylch yr Orsedd ym Mharc Bute. Bydd y lleoliadau yma a ddewiswyd yn arbennig yn troi yn llwyfan ar gyfer y perfformiadau.

Mae Eye See Ai yn bosibl trwy gyllid gan Gronfa Cydweithio Digidol y Cyngor Prydeinig, sy’n cefnogi partneriaethau diwylliannol yn y Deyrnas Unedig a thramor i ddatblygu ffyrdd digidol blaengar o weithio gyda’n gilydd, ffynhonnell incwm a gynigwyd pan wnaeth y pandemig atal cydweithio yn y cnawd.

I ddefnyddio’r ap:

  • Lawrlwythwch yr ap o siop apiau eich ffôn.
  • Yng Nghaerdydd, ewch am ganol y ddinas, gan sicrhau bod eich clustffonau gennych.
  • Pan agorir yr ap, byddwch yn cael eich annog i ddewis perfformiad. Os ydych wrth Glwb Ifor Bach, daliwch eich ffôn i fyny dros symbol llygad Eye See Ai ar du allan yr adeilad. Wrth y Llew ar y Mur Anifeiliaid, daliwch eich ffôn fel ei bod yn cyfateb i siâp y Llew, ac wrth y ffrâm ym Mharc Bute, daliwch eich ffôn fel ei bod yn cyd-fynd â siâp y ffrâm.
  • Gwisgwch eich ffonau clust a gwylio wrth i’r perfformiadau ddechrau o’ch blaen.

Gan mai prosiect ymchwil a datblygu yw’r ap, mae rhai elfennau a all beri problem o hyd, ond mae VTT wedi rhoi crynodeb o’r problemau cyffredin a sut y gellir eu datrys, y gallwch ei gweld ar wefan Hijinx. Hafan - Hijinx

Lawlwythwch yr ap Eye See Ai yma: Eye See Ai - Hijinx

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth i’r wasg, delweddau, i drefnu cyfweliad cysylltwch â Caitlin Rickard: caitlin.rickard@hijinx.org.uk | 029 2030 0331