Cyfle i archwilio Hanoi a Chaerdydd gan ddefnyddio technoleg realiti estynedig (AR) ddigidol mewn 6 pherfformiad digidol byr newydd.
Prosiect ymchwil yw Eye See Ai, sy’n anelu at gynnig cyfle ar gyfer cyfnewid diwylliannol gan fod cynulleidfaoedd yn cael y cyfle i grwydro Hanoi a Chaerdydd gan ddefnyddio technoleg realiti estynedig. Mae’r ap yn cynnwys chwe pherfformiad byr, tri i’w darganfod ym mhob dinas, wedi eu hysbrydoli gan y nodweddion a ddewiswyd. Mae’r perfformiadau symud a phypedau hyn wedi eu dyfeisio gan hwyluswyr ac actorion Hijinx, ochr yn ochr â phypedwyr a chyfranogwyr Mắt Trần.
Pwy sy’n cymryd rhan?
Hijinx yw un o gwmnïau cynhwysol mwyaf blaengar Ewrop, sy’n creu celfyddyd eithriadol gydag actorion ag anabledd dysgu a/neu awtistig ar y llwyfan a’r sgrin. Mae’r cwmni sy’n cydweithio o Fietnam Mắt Trần Ensemble yn grŵp o bypedwyr o Fietnam, sy’n dilyn gweledigaeth o gelfyddydau perfformio cynhwysol, gan gysylltu pobl a dwyn celfyddyd yn nes at gymunedau sydd ar y cyrion. Mae Tòhe, menter gymdeithasol sydd â’r genhadaeth o greu meysydd chwarae creadigol i blant dan anfantais, yn cefnogi artistiaid ifanc awtistig i ddysgu a datblygu trwy amrywiaeth o weithgareddau addysgol a chelfyddyd weledol. Mae’r partneriaid technegol VTT, sydd wedi adeiladu’r ap Eye See Ai, yn darparu technoleg realiti estynedig i greu profiadau dilys mewn gofodau cyfarwydd.
I ddefnyddio’r ap.
Lawrlwythwch yr ap o siop apiau eich ffôn. Yng Nghaerdydd, ewch am ganol y ddinas, gan sicrhau bod eich clustffonau gennych. Pan agorir yr ap, byddwch yn cael eich annog i ddewis perfformiad.
Lleoliad #1.
Os ydych wrth Glwb Ifor Bach, daliwch eich ffôn i fyny dros symbol llygad Eye See Ai ar du allan yr adeilad.
Lleoliad #2.
Wrth y Llew ar y Mur Anifeiliaid, daliwch eich ffôn fel ei bod yn cyfateb i siâp y Llew.
Lleoliad #3.
Ac wrth y ffrâm ym Mharc Bute, daliwch eich ffôn fel ei bod yn cyd-fynd â siâp y ffrâm. Gwisgwch eich ffonau clust a gwylio wrth i’r perfformiadau ddechrau o’ch blaen.
Materion Cyffredin.
- Llun yn rhewi, llusgo: Cynnwys AR yn drwm. Gall rhai dyfeisiadau â system brosesu isel arwain at lusgo. Ni ellir ei ddatrys.
- Dim sŵn: Wedi anghofio datfudo’r ffôn. Sut i’w ddatrys: Datfudwch eich ffôn a throi’r sŵn yn uwch.
- Methu actifadu’r camera: Ddim yn caniatáu mynediad at y camera a’r recordiad. Sut i’w ddatrys: Dilëwch yr ap yna llwytho i lawr eto. Caniatewch fynediad pan ofynnir i chi.
- Methu actifadu’r perfformiad yn Stryd Womanby: Sut i’w ddatrys: Sefwch yn agos at y Marciwr symbol EyeSeeAi. Pan gaiff ei adnabod, camwch allan nes gallwch chi weld y ffenestr i gyd.
Tîm a Chreadigwyr Hijinx.
Angharad James
Perfformiwr a Dyfeisiwr
Gareth John
Perfformiwr a Dyfeisiwr
Karol Cysewski
Perfformiwr a Dyfeisiwr
Rebecca King
Perfformiwr a Dyfeisiwr
Sarah Mumford
Perfformiwr a Dyfeisiwr
Victoria Walters
Perfformiwr a Dyfeisiwr
Ben Pettitt-Wade
Cyfarwyddwr Artistig
Ellis Wrightbrook
Pennaeth Theatr
Tom Ayres
Rheolwr Cynhyrchu
Bron Davies
Cynhyrchydd Cynorthwyol
Robin Moore
Ymgynghorydd Digidol
Jorge Lizalde
Gwneuthurwr Ffilmiau a Golygydd
Tic Ashfield
Cyfansoddwr
Tîm a Chreadigwyr Mat Tran.
Linh Valerie Pham
Cyfarwyddwr Artistig/ Cynhyrchydd/ Artist Addysgu/ Crëwr Pypedau
Nguỵ Thị Kiều Trinh
Cyd-gynhyrchydd
Nguyễn Hải Yến
Cyd-gynhyrchydd/ Rheolwr Cynhyrchu
Hoàng Hà
Cyd-gynhyrchydd/ Rheolwr Cynhyrchu
Lam Phong
Crëwr Pypedau/ Artist Addysgu
Đào Kim Thạch
Dylunydd Pypedau/ Pypedwr
Đinh Đăng Long
Dylunydd Pypedau/ Pypedwr
Lee Nguyễn SaeHae
Dylunydd Pypedau/ Pypedwr
Phạm Đức Việt
Dylunydd Pypedau/ Pypedwr
Phạm Khôi Nguyên
Dylunydd Pypedau/ Pypedwr
Vũ Nhật Tiến
Dylunydd Pypedau/ Pypedwr
Nguyễn Hồng Nhung
Cyfansoddwr
Trần Thảo Miên
Crëwr Pypedau/ Dylunydd Gwisgoedd
Nguyễn Linh Phương Thảo
Crëwr Pypedau
Trần Lệ Mai
Ymgynghorydd Diogelu
Cefnogir Eye See Ai gan Gydweithrediad Digidol Celfyddydau’r Cyngor Prydeinig, sy’n cefnogi partneriaethau diwylliannol yn y Deyrnas Unedig a thramor i ddatblygu ffyrdd digidol arloesol o gydweithio.
Tîm Tohe.
Nguyễn Thị Mộng Thu
Rheolwr Prosiect/ Rheolwr Contract
Nguyễn Phương Thu
Ymgynghorydd Prosiect
Phạm Thu Thủy
Ymgynghorydd Delwedd/Artist Addysgu
Tô Kim Nhung
Ymgynghorydd Delwedd/Artist Addysgu
Diolch yn fawr i Glwb Ifor Bach, Castell Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Firebug Studios a Studio 1.