the_crash.test

"Let's Get Figital!"

Yn y dyfodol agos, mae busnes technegol newydd, Figital, yn ceisio creu’r newyddbeth mawr newydd, y peth nad oedden ni’n gwybod ein bod ei eisiau ond sydd ei wir angen arnom, yn ôl pob tebyg. Y bechingalw newydd, neu Bob. 

Mae yna un broblem…nid yw’n gweithio’n iawn eto.

Ac nid ydyn ni’n gwybod beth ydyw, mewn gwirionedd. Ac nid ydyn ni wedi meddwl o ddifrif am ganlyniadau’r dechnoleg rydyn ni ar fin ei rhyddhau. Mae’n mynd i newid popeth. 

Mae the_crash.test, sy’n stori Frankenstein ar gyfer ein hoes ni, yn olwg dywyll, chwareus ar ein perthynas â thechnoleg, sy’n cynnwys pypedwaith cipio symudiad, tafluniad ar raddfa fawr, cyfansoddiad gwreiddiol a chast cynhwysol o berfformwyr ar y llwyfan a thrwy gyswllt fideo, i gynulleidfaoedd wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. 


Cyngor: Mae’r cynhyrchiad hwn yn cyfeirio at farwolaeth sydyn, ac mae’n cynnwys nifer o gyfnodau o densiwn mawr. Bydd clipiau o ddamweiniau ceir a ffrwydradau, golygfeydd sy’n debygol o fod yn anaddas i’r rhai sy’n sensitif i olau neu sain, a defnydd achlysurol o iaith gref. 

Cast Dyfeisio.

Benjamin Victor

Bethany Freeman

Lucy White

Lindsay Foster

Matthew Mullins

Owen Pugh

Richard Newnham

Creadigwyr a Thîm Cynhyrchu.

Ben Pettitt-Wade

Cyfarwyddwr Artistig

Tom Ayres

Rheolwr Cynhyrchu

Ellis Wrightbrook

Pennaeth Theatr

Bron Davies

Cynhyrchydd Cynorthwyol

Mehdi Razi

Cyswllt Creadigol

Garrin Clarke

Rheolwr Technegol

Ceri James

Dylunydd Goleuo

Robin Moore

Ymgynghorydd Digidol

Jonny Rees

Technegydd Digidol

Tic Ashfield

Cyfansoddwr a Dylunydd Sain

Chris Laurich

Dylunydd Sain Cynorthwyol a Peiriannydd Sain

David Massey

Canolfan Mileniwm Cymru – Cynhyrchydd Profiadau Ar-lein

Karol Cysewski, Michelle McTernan, Zach Beasley, Matt Mulligan, Ashford Richards

Cast R&D

the_crash.test – Stori Weledol .

Dyma ‘stori weledol’ sydd ar gael i roi cyd-destun i rybuddion cynnwys y sioe, sy’n ddefnyddiol i aelodau o’r gynulleidfa sy’n hoffi gwybod beth i’w ddisgwyl…ddim yn ddefnyddiol i’r rhai sydd ddim am i’r stori gael ei sbwylio! 

Comment Box is loading comments…

Diolch am eich cefnogaeth.