the_crash.test – Stori Weledol

Mae’r adnodd hwn yn rhoi cyd-destun i rai o rybuddion cynnwys y sioe. Mae’n offeryn sy’n ddefnyddiol i aelodau o’r gynulleidfa sy’n hoffi gwybod beth i’w ddisgwyl… ond rhybudd i chi, bydd y stori’n cael ei datgelu!

Cyngor .

Mae’r cynhyrchiad hwn yn cyfeirio at farwolaeth sydyn, ac mae’n cynnwys nifer o gyfnodau o densiwn mawr. Bydd clipiau o ddamweiniau ceir a ffrwydradau, golygfeydd sy’n debygol o fod yn anaddas i’r rhai sy’n sensitif i olau neu sain, a defnydd achlysurol o iaith gref. 

 

Diolch i PJ/Xuanjun Ke am y darluniau bwrdd stori rhyfeddol. Dyma Instagram PJ: @jot803.pj. Dyma wefan PJ. 

Panel 1.

Dyma ddechrau’r sioe, byddwch yn cael eich cyflwyno i rai o’r cymeriadau a’r actorion sy’n rhan o’r perfformiad, gan gynnwys Bob, sy’n dod i mewn i’r olygfa mewn fflach o olau. Mae darn fideo o gar mewn prawf damwain, ac mae hyn yn peri gofid i Bob. Clywir synau uchel. Mae Owen yn cael newyddion trist dros y ffôn.

Panel 2.

Mae rhai cymeriadau’n ymddangos ar y sgrin nad ydym wedi eu cyfarfod eto: y buddsoddwyr. Mae un ohonynt yn defnyddio iaith gref am ei fod yn flin. Mae Bob yn cyfarfod Betty, sy’n dod i’r llwyfan gyda fflach. Mae Bob wedyn yn syrthio i’r rhyngrwyd ac mae cyfres o ddelweddau fflachiog, sy’n symud yn gyflym ar y sgrin, yn dangos y wybodaeth y mae Bob yn dechrau ei hamsugno oddi ar y rhyngrwyd.

Panel 3.

Mae’r tensiynau’n cynyddu wrth i Michel deimlo’r pwysau gan y buddsoddwyr ac mae rhagor o iaith gref. Mae Frank yn mynd yn bryderus am ei sefyllfa. Rydym yn cael golygfa lle mae Greg yn ffilmio Michel/Ben a Frank/Owen yn nhoiledau’r dynion ac mae iaith gref. Ceir cyfres arall o ddelweddau’n symud yn gyflym sy’n fflachio heibio ar y sgrin.

Panel 4.

Mae llawer o densiwn eto wrth i Frank ymdrin â sefyllfa arall lawn straen a chael dadl gyda’i wraig, Izzy, nad ydyn ni’n ei chlywed, dim ond ei gweld. Mae Bob yn archwilio’r byd gyda Betty.

Panel 5.

Wrth deimlo bod yr hyn mae wedi ei weld yn ormod iddo, mae Bob yn ffrwydro’n beli lliwgar, yna mae’r peli plastig go iawn yn disgyn o’r nenfwd ac yn gorchuddio’r llwyfan. Gan fod llawer o densiwn cyn i Figital gael ei lansio, mae dadlau mawr am y llanastr a’r gacen cwcis.

Panel 6.

Mae’r tensiynau’n cynyddu eto yng nghyfarfod y buddsoddwyr ac mae rhagor o iaith gref. Rydym yn cael rhybudd y gallai rhywun fod wedi cael ei anafu ac yn yr olygfa nesaf mae cyfeiriadau at ddamwain car angheuol. Mae Bob yn datgelu eu bod wedi bod yn gwylio Frank trwy’r camera yn ei gyfrifiadur ac yn cyfaddef mai nhw wnaeth achosi’r ddamwain, trwy gychwyn ‘prawf damwain’. Gwelir Frank yn mynd yn ofidus ac mae rhagor o iaith gref.

Panel 7.

Rydym yn gweld Owen/Frank yn ofidus yn y toiled ac mae rhywfaint o iaith gref. Yn y lansiad, mae’r sgriniau’n cael eu goleuo gyda graffeg lachar sy’n fflachio. Mae’r olygfa yma yn cynnwys rhywfaint o ryngweithio gyda’r gynulleidfa, gan fod aelod o’r gynulleidfa yn y stiwdio yn cael ei wahodd i’r llwyfan. Daw Bob ar y llwyfan mewn fflach o olau ac mae’n mynd yn ddryslyd am ‘pwy’ ydyn nhw ac mae’n dechrau mynd yn ofidus, gan ofyn am help. Aiff Bob yn anghenfil gweledol ac yna mae’n cael ei ddileu o’r sgrin.

Panel 8.

Ceir cyfres arall o ddelweddau’n symud yn gyflym sy’n fflachio sy’n dod i ben gyda ffrwydrad atomig ar y sgrin, ond nid yw’r sŵn yn rhy uchel. Mae fflachiadau golau eraill wrth i Bob symud o ‘le’ i ‘le’ tu allan i’r rhyngrwyd. Daw’r actorion ar y llwyfan mewn siwtiau hazmat ac mae effeithiau caleidosgôp.

Panel 9.

Down i ddiwedd y stori. Mae golygfa ffug lle mae Ben/Michel yn dioddef ‘ymosodiad’ gan bypedau cysgodion o gŵn. Mae rhyddhad wrth i’r cynhyrchiad ddod i ben gyda churiad calon babi Owen.

Rydym yn gobeithio eich bod wedi cael yr adnodd hwn yn ddefnyddiol, ond os oes gennych gwestiynau neu bryderon o hyd am gynnwys the_crash.test anfonwch e-bost at ellis.wrightbrook@hijjinx.org.uk.Â