the_crash.test

Gobeithio eich bod wedi mwynhau yr sioe! Sgrowliwch lawr i adael sylwad neu tagiwch ni ar ein cyfrynghau cymmdeithasol @HijinxTheatre

Rydym yn ei chyfri’n fraint eich bod wedi dewis buddsoddi yn Figital, ac y byddwch yn ymuno â ni ar gyfer y lansiad!

Cliciwch yma i gymryd rhan yn y pleidleisio yn ystod the_crash.test. 

🌐 Mae eich adborth yn bwysig i ni. 🦾

Rydych chi wedi bod yn gwylio.

Lindsay Foster

Bethany Freeman

Lucy Green

Matthew Mullins

Richard Newnham

Owen Pugh

Benjamin Victor

Creadigwyr a Thîm Cynhyrchu.

Ben Pettitt-Wade

Cyfarwyddwr Artistig

Tom Ayres

Rheolwr Cynhyrchu

Ellis Wrightbrook

Pennaeth Theatr

Bron Davies

Cynhyrchydd Cynorthwyol

Mehdi Razi

Cyswllt Creadigol

Garrin Clarke

Rheolwr Technegol

Ceri James

Dylunydd Goleuo

Robin Moore

Ymgynghorydd Digidol

Jonny Rees

Technegydd Digidol

Tic Ashfield

Cyfansoddwr a Dylunydd Sain

Chris Laurich

Dylunydd Sain Cynorthwyol a Peiriannydd Sain

David Massey

Canolfan Mileniwm Cymru – Cynhyrchydd Profiadau Ar-lein

Karol Cysewski, Michelle McTernan, Zach Beasley, Matt Mulligan, Ashford Richards

Cast R&D

Hoffai tîm the_crash.test anfon diolch yn arbennig at: : Ashford Richards, Dan Jones, David Massey, Ed Talfan, Emma Evans, John Collingswood, Jon Cox, Jonny Rees, Karol Cysewski, Mark Down, Matt Mulligan, Michelle McTernan, Osian Gwynn, PJ/Xuanjun Ke, Rhian Wyn Evans, Robin Moore, Sharon Casey, Simon Luscombe (Holotronica), Taking Flight Theatre Company, Tom Whitehead (PrintHaus) a Zach Beasley.

Nodyn gan Ben Pettitt-Wade, Cyfarwyddwr the_crash.test

Fel mae Michel yn deud yn y sioe “mae hon wedi bod yn dipyn o daith”. Ar gyfer pob sioe yr ydym yn ei chreu gyda’n gilydd, rwy’n ceisio sicrhau lleiafswm o ddwy flynedd o’r syniadau cyntaf, i gynhyrchiad llawn. Er nad oedd gennym syniad y byddai’r sioe yma yn un y byddem yn cychwyn arni yn gynnar yn 2020, mae’n teimlo fel petai popeth yr ydym wedi bod yn ei wneud ers hynny wedi bod yn adeiladu at yr eiliad hon. Mae’n teimlo hefyd, heb ddigwyddiad byd-eang fel y pandemig, ei fod yn brosiect na fyddem erioed wedi ei archwilio.

Yn yr un modd â llawer o sefydliadau, fe’n gorfodwyd i ddod o hyd i ffordd newydd o gysylltu a chreu gyda’n cymuned o artistiaid a’n cynulleidfaoedd. Symudodd popeth ar-lein, ac er ein bod yn hiraethu am gyswllt â phobl, roedd nifer o bosibiliadau a phrofiadau cyffrous yn y ffordd newydd yma o greu a chyflwyno ein gwaith. Yr her ar gyfer y cynhyrchiad hwn, wrth i ni ddechrau dod yn ôl i ryw ffurf ar normalrwydd, oedd creu rhywbeth fyddai’n brofiad a fyddai yn gyfartal o ran safon, ond yn anochel yn wahanol i gynulleidfa ar-lein ac un yno’n bersonol – ac yn cael ei gyflwyno gan gast sydd yn bresennol ac ar-lein. Taflwch dechnoleg cofnodi symudiad a rhyngweithio trwy bleidleisio i’r gymysgedd, ac ar adegau mae wedi teimlo fel pe baem wedi cymryd gormod o gowlaid.

Ond diolch i gyllid o sefydliad Esme Fairbairn, Ymddiriedolaeth Elusennol Tregolwyn a Tŷ Cerdd, rydym wedi llwyddo i ddwyn tîm gwych at ei gilydd o bobl greadigol, y cyfan ohonyn nhw’n dod â sgiliau newydd y gwnaethant eu dysgu yn ystod y digideiddio gorfodol hwn. Ar ben hynny mae ymroddiad ein hartistiaid a gweithwyr llawrydd ni ein hunain yn Hijinx, llawer ohonynt wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr at y prosiect, er nad ydynt yn ymddangos yn y cynhyrchiad terfynol – hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at wneud y cynhyrchiad hwn. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r sioe, rydym wedi cael amser da iawn yn ei chreu. Rwy’n ei theimlo’n fraint anferth cael gweithio gyda thîm mor hael, gwych a llawn hwyl arni. 

#LetsGetFigital

Ben Pettitt-Wade, Cyfarwyddwr

Widget is loading comments…