Galwad Hwylusydd Allan – ReFocus

Galwad Hwylusydd Allan – ReFocus.

Mae Hijinx yn chwilio am hwyluswyr llawrydd i gefnogi cyflwyno eu hyfforddiant cynhwysiant newydd ar gyfer sector y sgrin – ReFocus.

Rydym yn eich gwahodd i anfon mynegiant o ddiddordeb i ymuno â ni fel hwylusydd ar ein prosiect, ReFocus.

Rhaglen hyfforddi trwy brofiad yw ReFocus sy’n canolbwyntio ar gyfathrebu a dealltwriaeth. Mae’n cael ei darparu trwy sesiynau fforwm theatr a hyfforddiant chwarae rhan benodol, gan ddefnyddio sefyllfaoedd ar gyfer pob maes ac adran sy’n rhan o wneud ffilm a theledu. Derbyniodd y prosiect gyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol. 

Bydd y sesiynau’n digwydd ar adegau amrywiol trwy gydol y flwyddyn, gan ddechrau yng ngwanwyn 2023. Felly bydd amserlen gyfnodol, hyblyg yn ei lle ar gyfer hwyluswyr llawrydd. 

Dyddiadau pwysig:

Dyddiad cau: Dydd Sul 23 Ebrill 2023 (Hanner nos)

Byddwn yn cysylltu â’r rhai y byddwn ni’n teimlo eu bod fwyaf addas ar gyfer y cyfle hwn ar ddydd Mercher 26 Ebrill a byddant yn cael eu gwahodd i gyfarfod anffurfiol gyda ni ar ddydd Mawrth 2 neu ddydd Mercher 3 Mai.

Byddwn yn cynnal un diwrnod llawn o hyfforddiant i Hwyluswyr ar 9 Mai.

Anfonwch bob mynegiant o ddiddordeb at: zade.campbell-davies@hijinx.org.uk