Odyssey Hijinx yn Ôl Gyda’i Gilydd ar y Llwyfan

Odyssey Hijinx yn Ôl Gyda’i Gilydd ar y Llwyfan mewn Sioe Nadolig Newydd, Doctor Dolittle’s Wild Adventure, i Nodi bod Normalrwydd yn Dychwelyd ar Ôl y Pandemig 

Mae grŵp theatr cymunedol Hijinx, Odyssey, yn ôl y mis Rhagfyr hwn ar gyfer eu cynhyrchiad Nadolig blynyddol yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, rhwng 1 a 3 Rhagfyr. Bydd cynhyrchiad y flwyddyn hon, Doctor Dolittle’s Wild Adventure, a gyfarwyddir gan Bennaeth Cyfranogiad Hijinx Jon Dafydd-Kidd, yn gweld y grŵp cyfan yn ôl hefo’i gilydd ar y llwyfan am y tro cyntaf ers 2019. 

Ar ôl i’r pandemig COVID-19 atal y grŵp rhag perfformio gyda’i gilydd yn 2020, roedd grŵp Odyssey yn falch iawn o berfformio unwaith eto yn 2021; ond, nid oedd Pinocchio and the Northern Lights, y gwerthwyd y tocynnau i gyd ar ei gyfer, yn dychwelyd yn ôl i normal. Er mwyn lleihau’r risg o COVID-19, rhannwyd y cast yn greadigol fel bod eu hanner yn ymddangos ar y llwyfan a’r hanner arall mewn golygfeydd digidol integredig. Eleni mae’r grŵp cyfan yn ôl gyda’i gilydd mewn un ystafell, i ymarfer, perfformio a chymdeithasu.  

Hijinx yw un o gwmnïau cynhwysol mwyaf blaengar Ewrop, sy’n creu celfyddyd eithriadol gydag actorion ag anabledd dysgu a/neu awtistig ar y llwyfan a’r sgrin. Mae ffrwd gymunedol Hijinx, PAWB, yn cynnig cyfleoedd creadigol i unrhyw un sydd am berfformio, beth bynnag yw ei brofiad neu ei allu. Mae Odyssey PAWB yn grŵp theatr cymunedol cynhwysol i actorion 25+, yn cynnwys cymysgedd o actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, ac actorion niwronodweddiadol sy’n perfformio gyda’i gilydd fel partneriaid cyfartal. Anrheg Nadolig y grŵp eleni fydd Doctor Dolittle’s Wild Adventure, a ysbrydolwyd gan stori glasurol Hugh Lofting am ddoctor sy’n well ganddo gleifion sy’n anifeiliaid na phobl. Ysgrifennwyd dehongliad Odyssey o’r stori hon gan Hefin Robinson gyda chyfraniadau gan y rhai sy’n cymryd rhan yn Odyssey. Gweithiodd Hefin gydag Odyssey ddwywaith o’r blaen, ar sgriptiau Pinocchio and the Northern Lights (2021) a The Curious Muchness of Stuff and Nonsense (2019). Dywed Hefin, am ei amser gydag Odyssey, 

“Yn fy nhrydedd sioe gydag Odyssey erbyn hyn, rwyf wedi cael dealltwriaeth ddofn o bwysigrwydd y grŵp hwn. Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan eiliadau o ddewrder a gwychder. Rwyf wedi bod yn dyst i werth cynhwysiant a rhoi llais i bawb.” 

Hefin Robinson

Mae Odyssey yn rhoi lle y mae mawr ei angen i’r rhai sy’n cymryd rhan ddod at ei gilydd a rhannu eu hoffter o berfformio, yn ogystal â bod yn lle i gael cefnogaeth i lawer. Canfu Adroddiad Effaith Cymdeithasol Hijinx yn 2021 bod 73% o’u hactorion a’r rhai oedd yn cymryd rhan yn dweud eu bod yn teimlo’n hapusach ers ymuno â Hijinx. Ni ellir gorbwysleisio arwyddocâd bod yn yr ystafell eto, nid yn unig i ymarfer a pherfformio, ond i gymdeithasu hefyd. Dywed Sara Pickard, un sy’n cymryd rhan yn Odyssey, 

“Mae bod yn rhan o Odyssey fel cael ail deulu lle gallwch chi rannu bob munud hapus gyda phobl sy’n ffrindiau i chi, a hefyd bod yna i gynnig ysgwydd i bwyso arni pan fydd hi’n anodd.”

Sara Pickard

Becky King, actor yn Academi Hijinx yn ogystal â chymryd rhan yn Odyssey, sy’n chwarae’r brif ran, sef Doctor Jane Dolittle yn y cynhyrchiad eleni. Mae Becky wedi bod yn aelod o Odyssey ers 2018, pan wnaeth ymddangos gyntaf yn Hansel, Gedeon and the Grimms’ Wood yn 2018.  

“Mae Odyssey yn golygu popeth i mi. Mae cael chwarae’r prif gymeriad yn llwyddiant mawr; rwy’n hapus ac wedi cyffroi, ond ychydig yn nerfus, ond rwy’n mynd i ddangos i bawb y gallaf wneud yn dda ac y gallaf fod yn ddoctor rhyfeddol.” 

Becky King

Sioe deuluol newydd sbon yw cynhyrchiad eleni, Doctor Dolittle’s Wild Adventure, sy’n cynnwys llawer o gymeriadau clasurol, gan gynnwys yr Hwyaden Fach Hyll, ‘Billy Goats Gruff’, Tri Mochyn Bach, Neli yr Eliffant ac ‘Incy Wincy Spider’; mae’n ddathliad llawen a bywiog o fyd natur a’i holl greaduriaid lliwgar. Bydd themâu amgylcheddol y stori hefyd yn cael effaith ar ddyluniad y set a’r dillad, gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi eu gwneud o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu. 

Y mis Rhagfyr hwn, ymunwch â Doctor Dolittle a’i ffrindiau ar eu hymgyrch i ddod o hyd i’r Pushmi-Pullyu chwedlonol ac achub calon y goedwig... a’r Nadolig!  

Gallwch weld Doctor Dolittle’s Wild Adventure yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, 1 – 3 Rhagfyr 2022.  

Dyddiadau ac amserau perfformiadau: 

  • Dydd Iau 1 Rhagfyr, 7pm 
  • Dydd Gwener, 2 Rhagfyr, 7pm 
  • Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr, yn y prynhawn: 3pm a pherfformiad fin nos: 7pm 

Mynediad: 

  • Bydd gan yr holl berfformiadau BSL integredig gan Sami Dunn 
  • Bydd gan bob perfformiad Ddisgrifiad Sain gan Alistair Sill ac Owen Pugh 
  • Mae Teithiau Cyffwrdd ar gael cyn y sioe os gofynnir amdanynt wrth archebu; cysylltwch â caitlin.rickard@hijinx.org.uk 

Addas i oedran: 5+ 

  • Croeso i fabanod bychan  

Archebwch eich tocynnau yma: Doctor Dolittle's Wild Adventure | Canolfan Mileniwm Cymru (wmc.org.uk)