Mae Alys yn rhy hen i bethau gwirion fel partïon, felly mae’n cymryd y cyfle i ddianc i fyd hudolus Wonderland gyda’r Gwningen Wen, wedi’i dilyn gan ei mam gor-amddiffynnol.
Yno, mae Alys a’i chath, Dinah, yn archwilio hyfrydwch hudolus dyfnderoedd tywyll Wonderland, lle sy’n llawn cymeriadau dychmygus.
Y Nadolig yma, ymunwch ag Odyssey, grŵp theatr gymunedol Hijinx, wrth iddynt ddod â’r dehongliad syfrdanol o chwedl glasurol Lewis Carroll yn fyw. Wedi’i hysgrifennu gan Hefin Robinson, mae The Curious Muchness of Stuff and Nonsense yn cynnwys cast mawr o berfformwyr anabl ac abl o Odyssey ac Ysgol Uwchradd Woodlands.