Niwroamrywiaeth a Gwrthhiliaeth Celfyddydau Cymru (NGCC)

Cael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl ag anabledd dysgu a niwrowahanol o gymunedau sy’n fwyafrif byd-eang rhag ymwneud â diwylliant yng Nghymru

Cael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl ag anabledd dysgu a niwrowahanol o gymunedau sy’n fwyafrif byd-eang rhag ymwneud â diwylliant yng Nghymru.

Mae Hijinx, Disability Arts Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddynodi’r problemau a wynebir gan bobl ag anabledd dysgu a rhai niwrowahanol sydd o gymunedau sy’n dioddef hiliaeth, wrth gysylltu neu gymryd rhan yn y celfyddydau.

Gyda chefnogaeth cyllid o Gronfa Rhannu Gyda’n Gilydd Cyngor Celfyddydau Cymru, yn haf 2022 fe wnaethom guradu tri digwyddiad ar-lein oedd yn anelu at ddatblygu: 

  • Dealltwriaeth gyffredin o’r rhwystrau sy’n atal cymryd rhan yn y celfyddydau  
  • Rhwydwaith o sefydliadau ac unigolion o’r cymunedau hyn  
  • Sylfaen ar gyfer gweithgareddau’r dyfodol, argymhellion ac addasiadau sydd angen eu gweithredu 
  • Sector celfyddydau mwy cynhwysol o bobl ag anabledd dysgu a niwrowahanol ar draws Cymru  

Rhagor o wybodaeth yma.


Rydym yn awr wedi sicrhau cyllid o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru i wireddu’r uchelgeisiau a’r gweithredoedd a ddynodwyd trwy’r sgyrsiau hyn, a wnaeth ddynodi’r heriau a’r rhwystrau a wynebir gan gymunedau a’r newidiadau angenrheidiol i greu newid gwirioneddol, cydraddoldeb a chynhwysiant. 

Am Y Prosiect.

Our Project Advisory Panel.

Tia Camilleri

Hazel Lim

Yvonne Odukwe

Dr Chris Papadopoulos

Izzy Rabey

Dr Sita Thomas

Partneriaid a Chyllidwyr y Prosiect.