Let’s Get ‘Figital’!

Mae Hijinx yn dychwelyd i’r llwyfan a’r sgrîn gyda stori Frankenstein newydd dywyll a chwareus ar gyfer ein hoes ni

Mae’r cwmni theatr arobryn, Hijinx, yn cyflwyno perfformiad cyfareddol, doniol, pryfoclyd a gweledol drwythol wedi’i osod rywbryd yn y dyfodol agos. Bydd the_crash.test yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 13 a 14 Mai a ddilynir gan ei berfformiad rhyngwladol cyntaf yng Ngŵyl Mittenmang yn Bremen, a pherfformiadau ychwanegol yn rhan o Ŵyl Undod Hijinx ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2022 yng Nghaerdydd, Bangor a Llanelli.

Gan gynnwys pypedwaith cipio symudiad, tafluniad ar raddfa fawr a chyfansoddiad gwreiddiol, mae the_crash.test yn cyflwyno cast cynhwysol o berfformwyr ar y llwyfan a thrwy gyswllt fideo, ar gyfer cynulleidfaoedd wyneb yn wyneb ac ar-lein. 

Mae Hijinx yn adnabyddus am eu gwaith theatr arloesol a chynhwysol sy’n wreiddiol, yn annisgwyl, yn flaengar, yn ddoniol ac y mae galw mawr amdano ar draws y byd. Mae eu cynhyrchiad diweddaraf yn cyfeirio at Frankenstein gan Mary Shelley, a’n perthynas â thechnoleg. Antur ddigrif i fyd deallusrwydd artiffisial a’r fersiynau robotig o’n hunain y gallem eu creu yn y dyfodol. Mae the_crash.test yn cyflwyno’r busnes technegol newydd Figital sy’n ceisio creu’r newyddbeth mawr nesaf; “y peth nad oedden ni’n gwybod ein bod ei eisiau ond sydd ei wir angen arnom, yn ôl pob tebyg. Y bechingalw newydd, neu ‘Bob’”. Ond dydyn nhw ddim wir yn deall sut mae’n gweithio na chanlyniadau eu creadigaeth newydd!

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Hijinx a Chyfarwyddwr the_crash.test, Ben Pettitt-Wade,

Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o greu ein gwaith a ffyrdd newydd o roi platfform i’n hartistiaid gwych. Mae rhyngweithio wastad wedi bod yn bwysig i’n perfformiadau, a’r her rydyn ni wedi’i gosod i’n hunain yw darparu profiad rhyngweithiol sy’n gyfartal, er hynny’n wahanol, i gynulleidfa ar-lein ac wyneb yn wyneb. Fel bob amser, mae ein hartistiaid wedi bod yn ganolog i greu’r cynhyrchiad hwn, gan gyfrannu eu safbwynt a’u creadigrwydd unigryw. Rydyn ni’n ysu am gael ei rannu gyda chi.”

Y gwaith diweddaraf hwn yw’r trydydd mewn cyfres o archwiliadau ‘Theatr Hybrid’, sy’n cyfuno perfformio a thechnoleg gan y cwmni wedi’i leoli yng Nghaerdydd sy’n arloesi, cynhyrchu, a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. 

Yn 2020, cyflwynwyd perfformiad digidol ar-lein Hijinx o Metamorphosis, a gafodd glod beirniadol, am y tro cyntaf yng Ngŵyl Green Man a dyna a ysgogodd y cwmni i chwilio am ffyrdd arloesol o gyflwyno, perfformio a mwynhau diwylliant. Canmolwyd y gwaith yn eang am ei ddefnydd arloesol o Zoom, a enillodd wobr hyd yn oed yng Ngwobrau Good The@tre y flwyddyn honno gan Red Curtain International. Mae Hijinx hefyd yn bartneriaid mewn prosiect cyfnewid diwylliannol arloesol, “Eye See Ai”, gan weithio gyda sawl cwmni o Fietnam i brofi ac archwilio ffyrdd newydd o greu perfformiadau realiti estynedig a datblygu ap gydag actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a Fietnam. 

Bydd gan the_crash.test Iaith Arwyddion Prydain a disgrifiad sain ar 14 Mai. Bydd capsiynau byw yn cael eu darparu ar gyfer pob perfformiad o’r digwyddiad ar-lein. 

Yna bydd y cynhyrchiad yn teithio i Bremen yn yr Almaen ar 29 Mai, cyn dod yn ôl i Gymru yn rhan o Ŵyl Undod Hijinx yr edrychir ymlaen ati’n fawr, a fydd yn dychwelyd i Gaerdydd, Bangor a Llanelli ar gyfer ei degfed flwyddyn!

Cast wedi’u cadarnhau:

  • Lindsay Foster
  • Bethany Freeman
  • Lucy Green
  • Richard Newnham
  • Owen Pugh
  • Ben Victor  

Tîm cynhyrchu:

  • Ben Pettitt-Wade -Cyfarwyddwr Artistig
  • Tom Ayres -Rheolwr Cynhyrchu
  • Ellis Wrightbrook - Pennaeth Theatr
  • Bron Davies - Cynhyrchydd Cynorthwyol
  • Mehdi Razi - Cyswllt Creadigol
  • Garrin Clarke - Rheolwr Technegol
  • Ceri James - Dylunydd Goleuo
  • Robin Moore - Ymgynghorydd Digidol
  • Jonny Rees - Technegydd Digidol
  • Tic Ashfield - Cyfansoddwr
  • Chris Laurich - Peiriannydd Sain

Perfformiadau

Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

Nos Wener 13 Mai, 8pm

Nos Sadwrn 14 Mai, 8pm

Tocynnau ar gyfer y Lleoliad: https://www.wmc.org.uk/en/whats-on/2022/the-crash-test

I wylio ar-lein: https://www.ticketsource.co.uk/Hijinx/e-yvbvxk

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i hijinx.org.uk, @hijinxtheatre #letsgetfigital 

Cyflwynir the_crash.test gan Hijinx mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru, Pontio a Ffwrnes ac fe’i cefnogir yn hael gan Sefydliad Esmée Fairbairn, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Thŷ Cerdd, Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.