Ffilmiau Hyfforddiant

Anghofiwch gyflwyniadau sych a ffilmiau hyfforddiant traddodiadol, diflas: mae ffilmiau pwrpasol Hijinx yn ffordd feiddgar ac effeithiol dros ben o hyfforddi gweithluoedd mawr neu wahanol.

A gyda’r cyfyngiadau presennol ar gyfarfodydd a chynadleddau, mae ffilm yn bwysicach ac yn fwy defnyddiol nag erioed.

Rydym yn gwneud ffilmiau hyfforddiant a llunio cyrsiau e-ddysgu pwrpasol gan ddefnyddio actorion Hijinx. 

Mae pynciau poblogaidd ar gyfer ffilmiau’n cynnwys: 

  • Ymarfer cynhwysol: sut i ymgysylltu â chwsmeriaid a/neu gydweithiwr ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth 
  • Arferion gorau o ran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 

 

Gellir dosbarthu ein ffilmiau ymhlith eich staff yn unigol, eu defnyddio i hwyluso trafodaeth mewn sesiynau ar gyfer grwpiau bach, neu eu cynnwys yn eich hyfforddiant ar-lein. Byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau bod y senarios yn addas ar gyfer gweledigaeth a nodau eich sefydliad, a’u bod yn bodloni deilliannau dysgu eich staff. 

Beth yw'r manteision.

  • Ffilm hyfforddiant bwrpasol gyda senarios gwaith gwirioneddol 
  • Mae staff yn teimlo’n fwy cymwys i gyfathrebu â chwsmeriaid neu gydweithwyr agored i niwed 
  • Mae’n dangos eich ymrwymiad i gydraddoldeb 
  • Mwy o ymgysylltiad ymhlith staff 

Beth sy’n cael ei gynnwys.

  • Datblygu sgript ffilm 
  • Ffilmio ar leoliad gydag actorion a staff cymorth Hijinx 
  • Yr hawliau i’r ffilm derfynol (telerau’r cwmpas i’w cytuno) 

Ar gyfer pwy.

  • Timau gwasanaethau cwsmeriaid mewn sefydliadau mawr 
  • Timau mewn nifer o leoliadau sydd angen yr un hyfforddiant 
  • Sefydliadau sy’n arwain y ffordd o ran cynhwysiant ac amrywiaeth ymhlith eu gweithlu 

Enghreifftiau o’n ffilmiau hyfforddiant.

 

Prifysgol Bangor & Prifysgol De Cymru (2019)

Comisiwn i ddathlu 100 mlynedd o Nyrsio Anabledd Dysgu.

Drive Supported Living (2020)

Ffilm yn hyrwyddo rôl gweithwyr cymorth. Cefnogwyd gyda buddsoddiad CultureStep Arts & Business.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (2021)

Cyfres o ffilmiau i helpu hyfforddi staff iechyd a gofal cymdeithasol i gyfathrebu’n effeithlon gyda, gofalu mewn modd priodol ar gyfer a chefnogi pobl gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Cefnogir gyda chyllid o Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ac Arts & Business Cymru.

Quote symbol

Darparodd Hijinx yr ateb delfrydol… mae’r adborth wedi bod yn unfrydol o gadarnhaol!

Cyfreithwyr Hugh James

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut all eich cwmni manteisio.