Sesiynau Cynadleddau

Boed ar-lein neu all-lein, mae ein sesiynau cynadleddau yn darparu ffordd ymarferol a gafaelgar o ymdrin â phynciau anodd yn y gweithle.

Byddwn yn gweithio gyda’ch tîm i ysgrifennu senario sy’n adlewyrchu mater sy’n destun trafod yn eich sefydliad, a’i berfformio gyda chast o actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Rydym yn cynnal cynadleddau a seminarau rhyngweithiol ar-lein ac all-lein, sy’n canolbwyntio ar:

Gyfathrebu’n effeithiol â phobl agored i niwed 

Materion anodd a all godi yn eich gweithle 

Dathlu amrywiaeth 

Beth yw'r mainteision i'r cyfranogwyr.

Ffordd afaelgar o hyfforddi grŵp mawr 

Golygfeydd a gaiff eu hysgrifennu’n arbennig ar gyfer eich staff 

Archwilio pwnc anodd mewn ffordd ddi-wrthdaro 

Beth sy’n cael ei gynnwys.

Hwylusydd Hijinx i arwain y sesiwn 

Y gynulleidfa’n cymryd rhan 

Golygfeydd pwrpasol ar eich pwnc 

Yn addas ar gyfer beth.

Cynadleddau blynyddol 

Digwyddiadau a seminarau diwydiannau 

Digwyddiadau hyfforddiant

 

 

Manylion.

Hyd: 45 munud+

Maint Grwpiau: 30 i 300+

Quote symbol

Mae archwilio thema trwy ddrama yn gallu bod yn ffordd haws o fynegi meddyliau a theimladau am y mater sy’n cael ei drafod

Simon Rose, Anabledd Dysgu Cymru

Quote symbol

Roedd yr hyfforddiant yn unigryw – cafodd senarios perthnasol eu hactio mewn golygfeydd byw, gyda hiwmor yn cael ei ddefnyddio i ennyn diddordeb y gynulleidfa.

Wales and West Utilities

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut all eich cwmni manteisio.