Rydym ni’n darparu’r actorion; chi sy’n arwain y sesiynau. Gallwch gynnwys ein hactorion yn eich sesiynau addysgu neu’ch proses recriwtio mewn senarios chwarae rolau rydych chi wedi’u paratoi.
Beth yw'r manteision.
Dewiswch o blith dros 60 o actorion HijinxÂ
Dysgwch trwy weithgareddau hwyliog a gweithgareddau ymgolliÂ
Gallwch greu senarios chwarae rolau penodol i’ch sefydliadÂ
Beth sy’n cael ei gynnwys.
Actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynolÂ
Cynorthwywyr Hijinx i gefnogi ein hactorionÂ
Sesiynau chwarae rolau un ac un gydag actorion HijinxÂ
Yn addas ar gyfer beth.
Unrhyw amgylchedd addysgu neu ddysguÂ
Sesiynau datblygiad proffesiynol parhausÂ
Cyfweliadau ac asesiadauÂ
Hyd: Hanner Diwrnod +Â
Maint Grwpiau:Â 1Â i 10 cyfranogwrÂ
Mae’r hyfforddiant hwn wedi bod o fudd o ran datblygu sgiliau cyfathrebu a hyder y myfyrwyr mewn amgylchedd cefnogol, yn barod ar gyfer gweithio ar leoliadau clinigol ledled Cymru.
Dr Elizabeth Metcalf, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd