Gweithdai Cyfathrebu

Caiff ein sesiynau manwl ar gyfer grwpiau bach eu seilio ar chwarae rolau a rhoi hyder i staff gyfathrebu i safon uchel gydag ystod o bobl wahanol, yn bersonol neu ar y ffôn.

Beth yw'r manteision.

Gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth mewn amgylchedd diogel, anfeirniadol 

Ymwybyddiaeth well o gwsmeriaid a/neu staff agored i niwed 

Magu hyder o ran cyfathrebu â chwsmeriaid a/neu staff agored i niwed 

Sesiynau ar gyfer grwpiau bach sydd wedi’u haddasu ar eich cyfer chi a’ch busnes 

Beth sy’n cael ei gynnwys.

Actorion Hijinx sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynol, ac mae gan bob un ohonynt anabledd dysgu a/neu awtistiaeth 

Hwylusydd Hijinx i arwain y sesiwn 

Ymarferion cynhesu a chynefino 

Cyfle i ymarfer eich sgiliau cyfathrebu a derbyn adborth yn eu cylch  

Golygfeydd a senarios wedi’u hysgrifennu’n benodol ar gyfer eich sefydliad 

Yn addas ar gyfer pwy.

Staff canolfannau cyswllt a staff sy’n ymdrin â chwsmeriaid 

Timau gwasanaethau cwsmeriaid 

Rheolwyr 

Gweithwyr sy’n sy’n ymdrin â’r cyhoedd yn rheolaidd  

Manylion.

Hyd: Hanner Diwrnod 

Maint Grwpiau: 6 i 10 cyfranogwr 

Gall ein hyfforddiant helpu eich sefydliad i fodloni gofynion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol o ran hyfforddiant mewn perthynas â chwsmeriaid agored i niwed, yn ogystal â gofynion hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.  

Quote symbol

Mae’r sesiynau chwarae rolau hyn wedi galluogi pobl i arbrofi a dysgu mewn amgylchedd diogel iawn. O ganlyniad, maen nhw’n fwy parod i ymdrin yn naturiol ag unrhyw un sydd angen cymorth arbennig.

Deb Bowen Rees, Prif Weithredwr, Maes Awyr Caerdydd

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut all eich cwmni manteisio.