Hijinx yn ennill gwobr y Cyfarwyddwr Gorau a gwobr am y Defnydd Mwyaf Arloesol o Dechnoleg ar gyfer Metamorphosis yng Ngwobrau Gŵyl Rhyngwladol The Good The@tre 2020
Mae cwmni theatr o Gaerdydd, Hijinx, wedi ennill dwy wobr yng Ngwobrau Gŵyl Ryngwladol Good The@tre am ei berfformiad rhyngweithiol ar-lein, Metamorphosis.
Daeth cynulleidfaoedd o dros 30 o wledydd ledled y byd ynghyd ar-lein i weld artistiaid yn perfformio yn y digwyddiad rhyngwladol i godi arian, a drefnwyd gan The Red Curtain o 21-29 Tachwedd. Yn dilyn y perfformiadau diwethaf, bu rheithgor o 11 yn dathlu arweinwyr theatr o saith gwlad, sy’n cael eu hystyried ymhlith y goreuon, yn yr ŵyl ar-lein.
Mae perfformiad digidol ar-lein uchel ei fri Hijinx, sef Metamorphosis, a ysbrydolwyd gan nofel fer glasurol Franz Kafka, wedi ennill dwy wobr, sef – Defnydd Mwyaf Arloesol o Dechnoleg, ac enillodd Cyfarwyddwr Artistig Hijinx, Ben Pettitt-Wade, y wobr am y Cyfarwyddwr Gorau.
“Roeddem ni’n falch iawn o gael ein dewis i fod yn rhan o’r ŵyl hon, ac rydym ni wrth ein bodd o fod wedi ennill dwy wobr. Yn ôl ym mis Mai, roeddem ni’n llamu i fyd anghyfarwydd pan ddechreuon ni archwilio p’un a fyddai’n bosibl gwneud sioe fyw, ryngweithiol ar Zoom. Ein cast a’n criw gwych sy’n gyfrifol am lwyddiant y sioe, wnaeth ymroi yn llwyr i’r dasg, a mwynhau bod yn greadigol yn y cyfnod tywyll hwn.”
Ben Pettitt-Wade, Cyfarwyddwr Artistig
Arbrawf ar gyfer Hijinx oedd Metamorphosis yn wreiddiol i ail-greu natur hynod ryngweithiol cynyrchiadau Hijinx trwy’r ymarferoldeb y mae Zoom yn ei gynnig i bawb, wedi eu perfformio o gartrefi’r cast. Fe wnaeth y gynulleidfa allu rhyngweithio â swyddogaethau pleidleisio Zoom, a daeth rhai cynulleidfaoedd yn rhan o’r gweithredoedd yn ystod y perfformiad, hyd yn oed.
Cafwyd y perfformiad cyntaf erioed eleni yng ngŵyl ddigidol ar-lein Green Man: Festival of Streams ym mis Awst.
"Mae Metamorphosis yn ddrama mor wych, ac wedi cael ei wneud mewn cymaint o ffyrdd ardderchog, a doeddwn i ddim yn meddwl y byddai cynhyrchiad ar-lein yn dod yn agos at gael ei berfformio’n llwyddiannus. Aeth Hijinx y tu hwnt i bob disgwyliad yn hyn o beth. Roedd yn wreiddiol, yn gyfoes, yn dywyll, yn emosiynol, yn ddoniol. Roedd yn symud yn gyflym ac fe gafodd ei berfformio’n gelfydd ac yn rhagorol."
Rheithiwr, Good The@tre Festival Awards
Digwyddiad codi arian oedd The Good The@tre Festival 2020, wedi’i gynllunio i godi cyllid hanfodol ar gyfer artistiaid theatr yn India nad oes ganddynt unrhyw fodd o gynnal eu bywydau. Roedd y rheiny yn y rownd derfynol yn cynnwys perfformwyr o Frasil, UDA, Y Ffindir, Sweden, Yr Almaen, Penrhyn Cape, Nigeria, Senegal, De Affrica, Simbabwe, Iran, India a Singapore.
Fe wnaeth Hijinx allu cymryd rhan yn y digwyddiad gyda chefnogaeth gan British Council Cymru. Mae’r arian a enillwyd, sef $750 am y ddwy wobr, wedi cael ei gyfrannu’n ôl i’r digwyddiad i gefnogi’r achos.
"Mae’r pandemig hwn wedi effeithio ar y celfyddydau ym mhob cwr o’r byd, ac yn anffodus, y rheiny sydd wedi cael eu heffeithio waethaf yn ystod y cyfnod hwn yw ein gweithwyr llawrydd, sy’n rhan annatod o’n diwydiant. Un o’r rhesymau y gwnaethom ni greu’r prosiect hwn oedd i allu darparu cyflogaeth ar gyfer ein teulu ein hunain o weithwyr llawrydd tra bydd ein theatrau ar gau. Felly, rydym ni’n falch iawn fod y darn y gwnaethom ni ei greu wedi gallu cefnogi artistiaid yn India sydd ag angen dirfawr am gymorth.”
Ben Pettitt-Wade, Cyfarwyddwr Artistig