Sylfaen Drama y Gogledd Galw ar Tiwtoriaid

Ydych chi’n weithiwr proffesiynol theatr, celfyddydau perfformio, neu weithiwr creadigol yn gweithio yng Ngogledd Cymru?.

Mae Hijinx yn chwilio am Hwyluswyr (Tiwtoriaid) a Hwyluswyr Cynorthwyol i helpu i gyflwyno ein rhaglen Sylfeini Drama i unigolion ag anableddau dysgu a/neu awtistig. 

Mae ein dosbarthiadau Sylfeini Drama yn digwydd unwaith yr wythnos trwy gydol y flwyddyn ac yn cynnig lle hwyliog, cymdeithasol a dibryder lle mae oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn gallu dysgu sgiliau drama, cerddoriaeth a symud. Rydym yn cael egwyl o wythnos dros y Pasg a phythefnos dros y Nadolig.

Mae ein cwrs Sylfeini Drama yng Ngogledd Cymru yn ail-lansio yn fuan.

Tiwtoriaid.

Mae Hijinx yn chwilio am artistiaid perfformio profiadol sy’n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd i fod yn diwtoriaid ar eu cwrs Sylfeini Drama yng Ngogledd Cymru.  

Nid oes cwricwlwm swyddogol, felly gall ein Tiwtoriaid ganolbwyntio ar beth bynnag yw eu harbenigedd. Bydd Tiwtoriaid yn cynllunio ac arwain y sesiwn yn eu harbenigedd wedi ymgynghori â Phennaeth Cyfranogiad Hijinx (PAWB), Jon Dafydd-Kidd. 

Manteision dod yn Diwtor Hijinx:  

  • Rydych yn cael gweithio gyda’n criw anhygoel o actorion ag anabledd dysgu a/neu niwrowahanol. 
  • Rydych yn cael cyfle i ehangu/archwilio eich ymarfer eich hun a dysgu rhagor am weithio mewn amgylchedd cynhwysol. 
  • Nid oes cwricwlwm swyddogol, felly gall ein Hwyluswyr ganolbwyntio ar beth bynnag yw eu harbenigedd. 
  • Gall ein Tiwtoriaid ddod yn rhan o brosiectau eraill Hijinx, boed yn rhan o’n timau dyfeisio, neu i arwain ar eu prosiectau eu hunain gyda ni. 
  • Hyblygrwydd – Rydym yn creu rota ar sail tymor gan ddibynnu pryd mae’n Tiwtoriaid ar gael, gan roi digon o amser i chi gynllunio eich ymrwymiadau eraill o gwmpas y tiwtora. 
  • Rydym yn deall, fel gweithwyr llawrydd, bod cyfleoedd yn codi’n achlysurol na allwch eu gwrthod, felly rydym yn barod iawn i drefnu gweithwyr yn eich lle o’n cronfa o diwtoriaid pan fydd angen. 
  • Mae gan yr holl Diwtoriaid hefyd fynediad at ein Rhaglen Cynorthwyo Gweithwyr (EAP) a sianeli cefnogi gweithwyr llawrydd eraill. 
  • Mae gennym hefyd ein grwpiau Theatr Pobl Ifanc ac Academi yn gweithredu yn y Gogledd, felly o ddod yn Diwtor efallai y bydd cyfle i ehangu i’r holl weithgaredd yn y Gogledd. 

Ein cyfradd dalu i Diwtoriaid yw £170 y dydd, neu £85 am hanner diwrnod yn cynnwys costau teithio. Mae diwrnod Sylfeini Drama yn nodweddiadol yn rhedeg o 9.15am – 3.15pm 

Hwyluswyr Cynorthwyol.

Rydym yn chwilio am unigolion sy’n chwaraewyr tîm da, gyda sgiliau cyfathrebu effeithiol a chefndir/gwybodaeth am y celfyddydau i ymuno â’n cronfa o weithwyr llawrydd fel Hwyluswyr Cynorthwyol yn y Gogledd. 

Mae Hwyluswyr Cynorthwyol yn cynorthwyo’r tiwtor trwy sicrhau bod yr holl gyfranogwyr yn dilyn y sesiwn ac yn gallu cymryd rhan lawn; yn aml maent yn ymuno yn yr ymarferion ac yn arwain trwy esiampl. Yr Hwylusydd Cynorthwyol hefyd yw’r cyswllt cyntaf i ymdrin ag unrhyw broblemau ymddygiad neu ddigwyddiadau a all godi yn y sesiwn, er mwyn i’r Tiwtor allu cadw’r sesiwn yn ei chyfanrwydd i redeg.  

Yr Hwylusydd Cynorthwyol sy’n gyfrifol am gofrestri a logiau dyddiol sy’n cael eu cofnodi’n electronig trwy Salesforce.  

Mae manteision bod yn Hwylusydd Cynorthwyol Hijinx yn cynnwys: 

  • Rydych yn cael gweithio gyda’n criw anhygoel o unigolion ag anabledd dysgu a/neu niwrowahanol. 
  • Rydych yn cael cyfle i ehangu/archwilio eich ymarfer eich hun a dysgu rhagor am weithio mewn amgylchedd cynhwysol. 
  • Rydych yn cael gweithio gydag artistiaid profiadol sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y diwydiant a dysgu oddi wrthynt. 
  • Weithiau mae ein Hwyluswyr Cynorthwyol yn cael y cyfle i fod yn rhan o brosiectau eraill Hijinx fel rhan o’r tîm dyfeisio a chefnogi. 
  • Hyblygrwydd – Rydym yn creu rota ar sail tymor gan ddibynnu pryd mae’n Hwyluswyr Cynorthwyol ar gael, gan roi digon o amser i chi gynllunio eich ymrwymiadau eraill o gwmpas eich gwaith gyda Hijinx.
  • Ond, rydym yn deall, fel gweithwyr llawrydd, bod cyfleoedd yn codi’n achlysurol na allwch eu gwrthod, felly rydym yn barod iawn i drefnu gweithwyr yn eich lle o’n cronfa o Hwyluswyr Cynorthwyol pan fydd angen.  
  • Mae gan yr holl Hwyluswyr Cynorthwyol hefyd fynediad at ein Rhaglen Cynorthwyo Gweithwyr (EAP) a sianeli cefnogi gweithwyr llawrydd eraill. 
  • Mae gennym hefyd ein grwpiau Theatr Pobl Ifanc ac Academi yn gweithredu yn y Gogledd, felly o ddod yn Hwylusydd Cynorthwyol efallai y bydd cyfle i ehangu i’r holl weithgaredd yn y Gogledd. 

Ein cyfradd dalu i Hwyluswyr Cynorthwyol yw £85 y dydd, neu £42.50 am hanner diwrnod yn cynnwys costau teithio. Mae diwrnod Sylfeini Drama yn nodweddiadol yn rhedeg o 9.15am – 3.15pm. 

Beth nesaf?.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â’n cronfa o Diwtoriaid a Hwyluswyr Cynorthwyol yn Hijinx, un o grewyr theatr a darparwyr hyfforddiant perfformio cynhwysol amlycaf y Deyrnas Unedig i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.    

I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle, cysylltwch â: holly.pugh@hijinx.org.uk