Cwrdd â'r perfformwyr a'r dyfeisiwyr Eye See Ai

Becky King.

Mae Becky, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn actor proffesiynol ag anabledd dysgu. Trwy Hijinx, mae Becky wedi cael profiad o ganu, dawnsio, gwaith masgiau ac actio ar y sgrîn. Mae hi’n gallu teithio’n annibynnol ac yn gallu darllen sgriptiau a’u dysgu nhw ar ei phen ei hun. Mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn canu ac mae ganddi lais da! Mae Becky wedi gweithio’n flaenorol yn y cynyrchiadau Mission Control a The Curious Muchness of Stuff and Nonsense.

Gareth John.

Mae Gareth, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn actor proffesiynol â syndrom Down. Mae wedi teithio’n helaeth ar draws y byd wrth chwarae rôl Martin yn ein sioe lwyddiannus, Meet Fred, ac mae wedi ymddangos hefyd yn Metamorphosis a’n sioe theatr stryd, Sleepwalkers. Mae Gareth hefyd yn mwynhau dawnsio, mae’n chwarae drymiau ac mae’n aelod o dîm criced anabledd Morgannwg.

Victoria Walters.

Mae Victoria, sy’n byw yn Ninbych-y-pysgod yng ngorllewin Cymru, yn actor proffesiynol â syndrom Down ac anawsterau clyw. Trwy Hijinx, mae Victoria wedi cael hyfforddiant proffesiynol mewn actio, dawns, theatr chwarae’n ôl ac actio ar gyfer camera. Mae hi’n gallu darllen a dysgu sgriptiau’n dda, ac mae’n medrus ac yn brofiadol mewn gymnasteg a dawnsio. Mae Victoria wedi ymddangos yn flaenorol yn Mission Control a Sleepwalkers.

Karol Cysewski.

Mae Karol yn creu perfformiadau doniol a chorfforol i brocio’ch meddwl. Fe astudiodd yn yr Ysgol Fale Wladol yn Poznan, Gwlad Pwyl, ac aeth ymlaen i hyfforddi yng Nghanolfan Laban yn Llundain, gan raddio yn 2001. Ers hynny, mae Karol wedi gweithio i sawl cwmni dawns, gan gynnwys Theatr Ddawns Bwylaidd yng Ngwlad Pwyl, Carte Blanche Norwy a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae Karol bellach yn gweithio fel artist, coreograffydd ac athro dawns annibynnol yng Nghaerdydd. Mae’n addysgu’n rheolaidd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Angharad James.

Mae Angharad James yn berchen ar stiwdio dawns, ffitrwydd ac iechyd. Mae FLOW Fitness yn darparu amrywiaeth o weithgareddau dawns, awyrol a ffitrwydd gyda rhaglenni allgymorth, yn ogystal ag amserlen lawn, o dan un to yn Stiwdio 17. Mae Angharad hefyd yn artist dawns lleol a chydlynydd datblygu dawns ar gyfer Gofal Celf. Dechreuodd yrfa Angharad gyda phwyslais cryf ar ddawns ac ehangodd i elfen ffitrwydd ac awyrol, gan roi cyfleoedd gwych i’r gymuned, gan gynnwys dawnsio cymunedol i blant, pobl ifanc ac oedolion, dawnsio eisteddog i bawb, dawnsio eisteddog i bobl ag anawsterau dysgu, a dosbarthiadau dawns i bobl ag anableddau. Dechreuodd taith Angharad gyda Hijinx yn Theatr y Lyric pan gafodd ei phenodi’n diwtor dawns gan Clare Williams. Roedd hi wrth ei bodd â’r cyfle ond yn nerfus iawn! Pan gerddodd i mewn i’r ystafell a chyfarfod ag Academi’r Gorllewin, bu’n bleser pur o’r cychwyn cyntaf. Mae Angharad wedi cael profiad gwych gyda’n ffrindiau yn Fietnam ar gyfer y prosiect Eye See Ai.

Sarah Mumford.

Mae Sarah wedi gweithio fel artist symudiad a theatr gorfforol ar ei liwt ei hun ym maes y celfyddydau ers dros 20 mlynedd. Hyfforddodd mewn dawns gyfoes, ac mae ei gwaith wedi bod yn rhyfeddol o amrywiol dros y blynyddoedd, o goreograffi a pherfformio i gyfarwyddo symudiadau, addysgu, hwyluso, mentora, a datblygu ei gwaith ei hun. Oherwydd y pandemig, mae Sarah wedi cael amser a lle i ganolbwyntio mwy ar ei harferion artistig ei hun, ac mae hi wedi bod yn archwilio a herio ein cysylltiad a’n perthynas â’r byd o’n hamgylch, a sut mae hyn yn ffurfio pwy ydym ni. Mae hi’n credu bod gan bawb stori i’w hadrodd, llais i’w glywed. Mae archwilio syniadau, cydweithio, dechrau trafodaeth a rhannu’r gwaith yn y pen draw yn gallu newid canfyddiadau, chwalu rhwystrau ac felly creu newid er gwell. Nod Sarah yw gwneud gwaith y mae pobl yn cysylltu ac uniaethu ag ef. Dechreuodd Sarah weithio gyda Hijinx yn ôl yn 2008 fel hwylusydd ar ei liwt ei hun, ac roedd yn falch iawn o gael cyfle i weithio ar Eye See Ai y llynedd. Mae’n dweud ‘bu’n bleser pur cydweithio gyda Becky ar y prosiect hwn, a chael y rhyddid i archwilio syniadau a dyfeisio gwaith ochr yn ochr â dysgu am y dechnoleg sy’n gwneud y cyfan yn bosibl. Bu’n wych cyfarfod â phawb yn Hanoi, cyfnewid lleoliadau, a gweithio gyda thirwedd newydd ac anghyfarwydd. Rwy’n gyffrous iawn i weld sut gallai’r cydweithrediad cychwynnol hwn ddatblygu ymhellach, yn ogystal â phosibiliadau technoleg i gysylltu cynulleidfaoedd a pherfformwyr mewn ffordd wahanol.’

Chael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn tudalennau Facebook Eye See Ai.