Mae Hijinx, Celfyddydau Anabledd Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddynodi’r problemau a wynebir gan bobl ag anabledd dysgu a rhai niwrowahanol sydd o gymunedau sy’n dioddef hiliaeth, wrth gysylltu neu gymryd rhan yn y celfyddydau.
Llynedd cynhaliwyd 3 sesiwn zoom am ddim i edrych ar y problemau yma. Roedd pob sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau a chyfle i ofyn cwestiynau a bod yn rhan o’r drafodaeth.
Sesiwn 1 – Beth ydym yn ei wybod yn barod?
Dydd Mercher 18 Mai 2022
Yn y sesiwn gyntaf edrychwyd ar sut mae pethau nawr, i gymunedau ag anabledd dysgu a rhai niwrowahanol, y rhai sy’n profi hiliaeth, a sut y mae Covid wedi effeithio ar y celfyddydau yng Nghymru.
Andrew Ogun yw’r Asiant dros Newid yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Rhannodd ei brofiad o’i flwyddyn gyntaf yn Asiant dros Newid, ei sylwadau am y sector ac archwiliodd y newidiadau sydd angen digwydd i’r sector fod yn gynhwysol a hygyrch i bawb.
Rhannodd Dr Edward Oloidi o Brifysgol De Cymru ei waith ymchwil ar effaith Covid ar bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
A rhannodd Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr Creu Cymru y newyddion diweddaraf am y sector celfyddydol wrth i ni ddod allan o’r pandemig.
Sesiwn 2 -Beth sydd gan gymunedau i’w ddweud?
Dydd Mercher 18 Mai 2022
Yn ein hail sesiwn clywsom gan eiriolwyr cymunedol, a rhieni pobl ifanc ag anabledd dysgu a niwrowahanol, am eu profiadau yn cael cefnogaeth a’u taith yn sefydlu eu sefydliadau eu hunain i greu newid.
Rhannodd Yvonne Odukwe, Autism’s Hidden Voices (Casnewydd) ei phrofiadau fel rhiant ac eiriolwr cymunedol. Ymunodd Izzy Rabey â hi, a soniodd am y gwaith y mae hi’n ei wneud gyda Autism’s Hidden Voices. Ymunodd yr actor Richard Mylan â ni hefyd a rannodd ei stori yntau.
Sesiwn 3 – Beth sydd angen i ni ei newid?
Dydd Iau 19 Mai 2022
Yn y drydedd sesiwn clywsom gan ddetholiad anhygoel o artistiaid a pherfformwyr ag anabledd dysgu a niwrowahanol.
Krystal Lowe
Tia Camilleri a Cara Walker – Fio
Selena ac Aarwn – Aubergine Cafe
Fe wnaethant rannu eu profiad personol eu hunain ac ymuno â thrafodaeth am y pethau y mae angen i’r sector celfyddydol eu gwneud i fod yn gynhwysol a hygyrch i bawb.