Cydlynydd Creadigol – Gogledd Cymru

Bydd ceisiadau yn cau am 17/7/23 am ganol nos

Swydd Wag: Cydlynydd Creadigol – Gogledd Cymru.

Y Swydd

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Cydlynydd Creadigol – Gogledd Cymru ran-amser ar gyfer ein hwb yng ngogledd Cymru i gefnogi Academïau Hijinx a gweithgareddau PAWB yn yr ardal hon. Dyma gyfle gwych i ymuno â’r cwmni theatr brysur a chyffrous hwn a chael effaith gadarnhaol.

Mae Cydlynydd y Gogledd yn gyfrifol am gynllunio a chyflwyno ystod gweithgareddau Academi a chymunedol Hijinx yng Ngogledd Cymru yn effeithiol ac yn effeithlon, i gefnogi’r Penaethiaid Adran – gan gynnwys cyrsiau Academi, Sylfaen Drama, a Theatr Pobl Ifanc – i sicrhau eu bod yn cyflwyno profiadau celfyddydol o safon uchel i bawb sy’n cymryd rhan.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio’n agos â’r Penaethiaid Adran i gefnogi ein holl weithgareddau yng Ngogledd Cymru. Byddant yn weithgar wrth gyflwyno sesiynau ymarferol a chynrychioli Hijinx gyda’n partneriaid rhanbarthol a chymunedol. Byddant hefyd yn darparu arolygaeth lles a diogelu, ac yn rheoli unrhyw dasgau gweinyddol cysylltiedig. Yn ogystal â chyfranogiad gweithredol yn ein sesiynau byddant yn cefnogi recriwtio ar gyfer ein gweithgareddau, yn meithrin perthnasoedd rhagorol gyda phartneriaid i gynnal ein safonau uchel ar gyfer cyflwyno, gwneud yn siŵr bod ein cyfranogwyr yn cael y gefnogaeth briodol yn ein sesiynau a bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiadau.

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen i chi ddefnyddio’ch dychymyg i ddatrys problemau a bod yn chwaraewr tîm trefnus, hunan-gyfeiriedig gyda sgiliau cyfathrebu cryf.


Swydd Wag

Yn y pecyn hwn, cewch fanylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.

Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, os oes arnoch angen unrhyw addasiadau rhesymol eraill, neu os hoffech gael y wybodaeth am y rôl mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar info@hijinx.org.uk.


I Wneud Cais

Os credwch eich bod yn ateb gofynion y swydd ac yr hoffech wneud cais, gofynnwn i chi anfon y dilynol atom:

  1. CV cyfredol yn sôn am eich profiad gwaith hyd yma – gan sicrhau eich bod yn rhoi sylw i brofiad perthnasol, sgiliau a chymwysterau. Anfonwch hyn fel dogfen Word os gwelwch yn dda.
  2. Dweud wrthym pam mai chi yw’r ymgeisydd cywir a sut y byddech yn mynd ati i gyflawni gofynion y swydd. Gallwch wneud hyn naill ai:
    a) gyda llythyr eglurhaol o ddim mwy na dwy ochr. Anfonwch fel dogfen Word os gwelwch yn dda.
    neu
    b) fideo, heb fod yn fwy na 3 munud o hyd. Anfonwch fel .mov neu .mp4 os gwelwch yn dda.
  3. Llenwi Ffurflen Monitro Amrywiaeth – i gael ei llenwi ar-lein yma – gofynnir i chi gadarnhau yn eich llythyr eglurhaol eich bod wedi llenwi’r ffurflen hon.

Dylid anfon ceisiadau at ein hymgynghorydd Adnoddau Dynol hr@hijinx.org.uk erbyn y dyddiad cau.

Bydd ceisiadau yn cau ganol nos ar 17/7/23  a chaiff y rhestr fer ei llunio yn yr wythnos yn dechrau 24/7/23. Bydd y cyfweliadau’n cael eu trefnu ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar 24/7/2023. Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, angen unrhyw addasiadau eraill rhesymol neu angen gwybodaeth am y swydd mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar info@hijinx.org.uk os gwelwch yn dda.

Telerau.

Teitl Swydd: Cydlynydd Creadigol – Gogledd Cymru

Rheolwr Llinell: Cyfarwyddwr Academi / Pennaeth PAWB

Hyd contract: Parhaol

Lleoliad: Bydd y swydd hon wedi ei leoli yn bennaf ar leoliad gweithgareddau Hijinx ar draws Gogledd Cymru, ar hyn o bryd ym Mangor a Bae Colwyn – caiff peth amser gweinyddol hefyd ei dreulio yn gweithio gartref neu TAPE/Pontio

Cyflog: £18,400 (£23k cyfwerth ag amser llawn)

Oriau: Pedwar diwrnod yr wythnos gyda pheth gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau y rhoddir amser i ffwrdd yn lle ar ei gyfer

Dyddiad cau: 17/7/23