Beth yw Ailffocysu?.
Mae Ailffocysu yn rhaglen hyfforddiant ar gynhwysiant anableddau dysgu, a ddatblygwyd gan Hijinx i’r diwydiant sgrin. Mae gan Ailffocysu dair haen o gymorth yn addas ar gyfer unrhyw fodel sefydliadol, ac mae’n unigryw o hyblyg i fod yn addas i’ch anghenion. Mae ein cymorth yn amrywio o hyfforddiant undydd i sawl mis o gymorth ymgynghorol, gan eich helpu i wneud newid go iawn tuag at wella cyfleoedd i bobl greadigol ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn y diwydiant sgrin, ac i wella agweddau tuag atynt.
Beth sy’n digwydd yn yr hyfforddiant?.
Mae ein hyfforddiant undydd yn dwyn grŵp bach ynghyd ar gyfer hyfforddiant chwarae rôl, gyda hwylusydd arbenigol ac actorion Hijinx yn arwain y sesiwn. Bydd y bobl sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant yn gwylio cyfathrebu o ansawdd amrywiol rhwng actor ag anabledd ac actor heb anabledd, ac yn cydweithio i wella a dysgu o’r rhyngweithio a welant. Gyda chyfathrebu’n ganolog i’r hyfforddiant hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu gofyn cwestiynau ac anghytuno â’i gilydd, gan weithio ynghyd i ddeall effeithiau cadarnhaol a negyddol y ffordd rydym ni’n cyfathrebu â’n gilydd. Dysgwch fwy am y diwrnod hyfforddiant a’r cymorth ychwanegol a ddarparwn yma.
A alla’ i wneud yr hyfforddiant ar-lein? .
Trwy fodel hybrid, gallwn ddarparu hyfforddiant yn bersonol neu ar-lein, yn dibynnu ar faint eich sefydliad. O ystyried natur ein hyfforddiant, mae’n angenrheidiol bod rhywfaint o hyfforddiant personol yn digwydd ond, i sefydliadau mwy yn enwedig, gellir darparu hyfforddiant ar-lein ychwanegol.
Dysgwch fwy am ein pecynnau hyfforddi yma, neu cysylltwch â ni.
A alla’ i wneud hyn fel unigolyn?.
Rydym yn gweithio i ddatblygu hyfforddiant i weithwyr llawrydd unigol, gan roi achrediad i gefnogi’ch datblygiad gyrfaol ac i ddangos eich ymrwymiad i gynhwysiant anableddau dysgu. Gallwch gofrestru’ch diddordeb yma.
Beth yw cost yr hyfforddiant?.
Mae cost ein hyfforddiant yn dibynnu ar lawer o ffactorau: maint eich sefydliad, y pecyn hyfforddiant y mae ei angen arnoch, ac unrhyw gostau neu wasanaethau ychwanegol a gafwyd. Gan fod pob pecyn yn cael ei ddatblygu’n bwrpasol gyda chi, cysylltwch heddiw i drafod eich anghenion a chael dyfynbris.