Allwch chi ddim gwneud omelette heb dorri wyau.
Pum cogydd. Tair iaith. Un omelette amhosibl..
Yn y sioe wych, wallgof, dairieithog hon, ceir anhrefn wrth goginio wrth i gogyddion o ddiwylliannau gwahanol frwydro i greu’r “omelette perffaith”. Disgwyliwch weld wyau’n hedfan, gwersi etiquette doniol ac ambell sypreis yn y gegin. O ddeall y system giwio i gracio wyau à la française, mae Bon Appétit yn archwiliad blasus o ddoniol o fwyd, faux pas, a’r grefft o gael pethau’n anghywir!
Byddwch yn barod am wledd o gomedi, lle mae’r gwrthdaro rhwng diwylliannau yn creu’r pleserau mwyaf annisgwyl.
Dyfeisiwyd gan y cwmni, cyfarwyddwyd gan Ben Pettitt-Wade.