Academïau – Darganfod Mwy

Ein cwrs ni yw’r unig gwrs hyfforddiant perfformio proffesiynol yng Nghymru ar gyfer actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sy’n dymuno gweithio ym myd theatr a ffilm.

Mae myfyrwyr yn dysgu ystod o sgiliau perfformio, yn datblygu sgiliau cymdeithasol ac yn dod yn fwy annibynnol. Mae llawer o fyfyrwyr Hijinx wedi mynd ymlaen i berfformio mewn rolau proffesiynol â thâl mewn teledu,ffilm ac ar lwyfan. 

Sut mae o'n gweithio.

Mae Academi Hijinx yn gwrs hyfforddiant sgiliau perfformio i oedolion sy’n uniaethu fel rhywun sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth. Mae myfyrwyr yn mynychu’r cwrs am ddeuddydd pob wythnos ac yn astudio amrywiaeth o sgiliau sy’n cael ei ddysgu gan rhai o’r ymarferwyr mwyaf uchel ei barch a phrofiadol sy’n gweithio yng Nghymru.

Mae’r Academi wedi ei dylunio i’ch paratoi chi ar gyfer gyflogaeth fel perfformiwr proffesiynol. Mae gan fyfyrwyr y potensial i fynd ymlaen i berfformio yn rhai o’n cynyrchiadau proffesiynol, yn Å´yl Undod Hijinx, ac mewn cynyrchiadau theatr, ffilm a theledu eraill, bydded hynny gyda Hijinx, neu du hwnt.

Mae’r cwrs wedi ei dylunio i gefnogi ein hactorion drwy gydol ei gyrfau proffesiynol, ac yn wahanol i ysgolion drama draddodiadol, ddim yn gorffen ar ôl tair blynedd. Yn hytrach, mae’r actorion yn gallu dewis i barhau gyda’r cwrs fel y mynna, tra eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw dal yn manteisio o’r cwrs.

Lle allai'i fynd.

Mae yna pum Academi ledled Cymru ac rydyn ni wedi eu lleoli nhw fel nad oes rhaid i chi byth gorfod teithio am fwy na 90 munud i gyrraedd un.

De 1 a 2 – Chapter Arts Centre, Caerdydd 

Gogledd – TAPE Community Music & Film, Bae Colwyn  

Gorllewin – Theatr y Lyric, Caerfyrddin 

Canolbarth – Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Pryd mae o'n digwydd.

Academi’r De 1 – Dydd Llun a Dydd Mawrth  

Academi’r De 2 – Dydd Mercher a Dydd Iau

Academi’r Gogledd – Dydd Llun a Dydd Mawrth  

Academi’r Gorllewin   – Dydd Iau a Dydd Gwener 

Academi’r Canolbarth – Dydd Llun (Rydyn ni’n gobeithio uchwanegu ail diwrnod yn fuan)   

Mae dosbarthiadau yn rhedeg drwy’r flwyddyn, yn torri am Gwyliau’r Banc, hyd at pythefnos dros y Nadolig ac wythnos y Pasg. Mae’r diwrnod gwaith yn rhedeg o 10yb tan 4yh (9.30yb tan 3.3yh yn y Canolbarth)

Beth yw'r gost.

Gall y gost amrywio rhywfaint yn dibynnu ar eich lleoliad, ond tua £42 y dydd yw’r arfer. Gallech drafod gyda’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch tîm cynllunio am gyllideb ar gyfer hyfforddiant a chostau teithio.

Eisiau gwybod mwy? Cysylltwch â ni yn defnyddio'r ffurflen syml a wnawn ni ddod yn ôl atoch.