Ymchwil a Datblygu Cynhwysol

Cefnogwyd gan Clwstwr

Mae pobl anabl wedi’i tangynrychioli yn ddifrifol mewn cynnwys sgrin yn ogystal a chynhyrchiad. Ar gyfer pobl efo anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth mae’r niferoedd hyd yn oed yn llai.

Mae ein prosiect Clwstwr yn archwilio i sut gallwn creu cynnwys sgrin mewn ffordd gwir cynhwysol ar gyfer actorion LD/A, gan gynnwys yr actorion a’i lleisiau o’r gychwyn.

Pa fath o brosesau bydd angen ar gyfer adrodd straeon mewn ffordd cynhwysol? Gallwn ni ymdrin gyda ffilm yn yr un modd rydym yn ymdrin a theatr? Pa dulliau eraill sy’n bodoli?

Mae’r prosiect yn bwriadu creu newid arwyddocaol a hir-dymor trwy annog i’r diwydiannau sgrin gweithio mewn ffordd mwy cynhwysol.

Quote symbol

Mae dim ond 5% o weithwyr sgrin yn ystyried ei hun yn fyddar ac/neu’n anabl. Hyd yn oed heb ymchwil, mae’n glir bod ffilm ddim unrhywle agos o fod yn gynrychiolgar o boblogaeth yr DU a bod angen llawer o waith i newid hyn.

Adroddiad Safonau Amrywiaeth BFI 2020

Quote symbol

Lle mae’r holl pobl anabl ar y sgrin? Mae rhaid i ni cynyddu cynrychiolaeth neu mae’r risk bydd stereoteipiau niweidiol yn cael eu atgyfnerthu.

Caroline Casey, The Independent

Quote symbol

Mae 59 o actorion wedi derbyn enwebiad Oscar ar gyfer chwarae cymeriadau efo anableddau. Dim ond un ohonynt oedd yn anabl. Dychmygwch pa mor well byddai straeon hynny petai nhw wedi portreadu gan berfformwyr anabl. Yn bersonol, credaf bydda hynny wedi bod yn chwyldroadwy.

Jack Thorne @jackthorne

Ymchwiliad.

Ymchwiliodd Dr Sita Thomas (Ymchwiliwr Prosiect Clwstwr Hijinx) i mewn i waith nifer o gwmnioedd cynhwsyol sefydledig theatre, teledu a chynhyrchwyr ffilm, gan ffocysu ar eu bwriadau, gwerthoedd, ethos a’i dulliau wrth greu gwaith.

Astudiaethau Achos

Being Normal.

Ar ol y cyfnod ymchwilio ein bwriad oedd i gymhwyso y dull Hijinx, a dulliau eraill darganfyddon mewn cyfweliadau, i ddatblygiad cynnar y ffilm ‘Being Normal’. Oherwydd effaith Covid, roedden ni ond yn gallu gwneud hyn yn rhannol oherwydd roedd gweithio ar Zoom yn sicr efo’i cyfyngiadau.

Hidden/Craith – Cyfres 3.

Daeth Severn Screen i Hijinx achos roeddent yn gwybod roedd un o brif cymeriadau y cyfres am fod yn cymeriad efo anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth. Roedden nhw eisiau creu a chastio’r cymeriad mewn modd awthentig. Roedd ymrwymiad y cynhyrchwyr a’r uwch creadigwyr o’r gychwyn yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y proses a dilysrwydd y cymeriad.

Glitch.

Ffilm byr a chafodd ei greu dros Zoom gan ddefnyddio dull a oedd yn gyfagos i’r dull Hijinx. Oherwydd roedd stori y ffilm yma wedi’i canoli o gwmpas galwad Zoom, roedd Zoom yn cyfrwng addas (er nid perffaith) ar gyfer datblygu’r prosiect – yn wahanol i ‘Being Normal’.

Beth darganfyddon ni.

  1. Mae bod yn gynhwysol yn y diwydiant sgrin yn bosib – ond mae llawer o waith i wneud.
  2. Mae yna sicr marchnad awyddus – mae cynhyrchwyr yn dechrau gweld y buddiadau artistig yn ogystal a ariannol wrth adrodd straeon cynhwysol.
  3. Mae yna angen i fod yn gynhwysol dros holl sectorau y diwydiant sgrin, nid jyst mewn datblygiad gwaith a sgriptiau. O sut mae pethau yn cael ei cynhyrchu i sut mae pethau’n cael eu hyrwyddo.
  4. Oherwydd hyn mae yna cyfres o gynhyrchion potensial gallwn datblygu – addysgu cyfathrebiad, ymgynghoriaeth, canllaw digidol/toolkit, rhyngwaith dadleuwriaeth, asiantaeth/cofrestrfa ar gyfer galluogwyr creadigol.
  5. Mae modd i Hijinx arwain y gwaith yma – roedd bron pob un o’r sefydliadau wnaeth Sita Thomas cwrdd yn ei chyfweliadau o’r barn bod Hijinx ar y gad gyda arferion cynhywsol
  6. Mae yna buddiadau ehangach o weithio’n gynhwysol: mae’r gwaith creadigol yn gryfach, mae’r straeon yn fwy beiddgar ac efo mwy o arlliw. Mae timoedd cynhyrchu yn egniol, wedi’i cysylltu ac yn agor mewn ffurfiau hollol gwahanol. Ar ben popeth arall, mae straeon sydd wedi’i anwybyddu am mor hir efo lle i flodeuo.

Dadlwythwch yr adroddiad llawn

Credydau Lluniau Ryan Eddleston and Huw Walters

Clwstwr.

Mae Clwstwr yn rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sgrin.

Darganfyddwch mwy

Triongl.

Mae Triongl yn gwmni cynhyrchu teledu a ffilm a sefydlwyd yn 2017 gan Nora Ostler Spiteri ac Alec Spiteri. Ymunodd Gethin Scourfield, cyd-gyfarwyddwr y cwmni, yn 2018 yn dilyn blwyddyn fel golygydd comisiynu drama dros dro ar gyfer S4C. Mae eu credydau cyfun yn cynnwys Keeping Faith, Hinterland a The Miniaturist.

Darganfyddwch Mwy