Cynigiwyd a chefnogwyd saith o ganllawiau newydd ar gastio actorion ag anableddau dysgu ac anableddau datblygiadol ar gyfer ffilm a theledu mewn cynyrchiadau ledled y byd gan uwch gynrychiolwyr y diwydiant sgrin a gwleidyddion yng Nghymru heddiw.
Datblygwyd y safonau, sy'n cynnwys cyngor ar osgoi stereoteipiau, cynnal clyweliadau priodol a gweithio mewn partneriaeth, gan Hijinx er mwyn hyrwyddo castio moesegol, ac i sicrhau bod cymeriadau sydd ag anableddau dysgu yn cael eu cynrychioli'n deg ar y sgrin. Mae Hijinx yn gwmni sy'n creu cynyrchiadau arloesol ym myd theatr a ffilm gynhwysol; mae hefyd yn rhedeg academi hyfforddi ddielw i actorion ac asiantaeth gastio ar gyfer actorion niwroamrywiol.
Ers i’r Oscars ddechrau ym 1929, mae 16% o'r gwobrau ar gyfer yr actor gorau a’r actores orau wedi eu cyflwyno am bortreadau o anabledd neu salwch meddwl, ac yn eu plith mae rhai perfformiadau nodedig e.e. Dustin Hoffman fel Raymond Babbitt yn Rain Man, Geoffrey Rush fel David Helfott yn Shine a Tom Hanks fel Forrest Gump.
Gosododd Clare Williams, Prif Weithredwr Hijinx, her i'r diwydiant sgrin yn ei gyfanrwydd: sef gweld actor niwroamrywiol yn ennill gwobr BAFTA Cymru erbyn 2025, gwobr BAFTA erbyn 2028 ac Oscar erbyn 2030. Dywedodd:
"Byddai'n syfrdanol gweld actor yn 'ymbardduo’ er mwyn chwarae cymeriad tywyll ei groen, a theimlwn yn 2018 ei bod yr un mor annerbyniol i actor heb anabledd dysgu chwarae rhan cymeriad ag anabledd dysgu. Mae'r addewid diweddar a wnaethpwyd gan y BBC i ddyblu nifer y bobl anabl sy'n gweithio i'r gorfforaeth erbyn 2020 yn gam mawr ymlaen, ond dim ond mynd â ni hanner y ffordd mae hyn, gan y dylem fod yn adlewyrchu gwir amrywiaeth ein cymdeithas ar ein sgrin hefyd.
"Rydym o'r farn bod ein nod, sef gweld actor niwroamrywiol yn ennill Oscar erbyn 2030 yn bosibl trwy bartneriaethau effeithiol rhwng y diwydiannau sgrin a sefydliadau sy'n cael eu harwain gan anableddau dysgu megis Hijinx. Ar gyfer pob un o'r saith safon diwydiant newydd a argymhellir, rydym yn cynnig ateb a chefnogaeth. Heddiw rydyn ni'n rhoi gwybod i'r diwydiant sgrin ein bod ni yma i helpu."
Clare Williams, Prif Weithredwr Hijinx
Cyhoeddodd Hijinx eu hargymhellion yn y Seminar ‘Castio Actorion Niwroamrywiol mewn Ffilm a Theledu’, a gynhaliwyd yn Adeilad Pierhead, Bae Caerdydd. Mynychwyd y seminar oedd dan gadeiryddiaeth Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, gan uwch gynrychiolwyr y diwydiant sgrin a gwleidyddion, ac yn eu plith Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Allison Dowzell, Cynghrair Sgrin Cymru, Rebecca Gould o’r Cyngor Prydeinig, a Lee Waters, AM Llanelli. Roedd y ddadl yn mynd i'r afael â'r rhwystrau wrth gastio actorion ag anableddau dysgu, yn ogystal â sut y gallai castio actorion niwroamrywiol ddod yn norm. Cynigiodd y seminar gefnogaeth a chyngor adeiladol ar sut i gastio actor niwroamrywiol, sut i gastio’n ddidwyll a sut i osgoi stereoteipiau, gyda'r nod yn y pen draw o ddod i ben â’r arfer o gastio actorion niwrogyffelyb fel cymeriadau niwroamrywiol.
Yn ystod y seminar, canmolwyd Llyr Morus, Cynhyrchydd Pobol y Cwm am gynnwys cymeriad ag anabledd dysgu, sy’n cael ei chwarae gan actor ag anabledd dysgu a hynny mewn stori barhaus. Cysylltodd Pobol y Cwm â Hijinx yn gynnar yn y broses o greu llinell stori a llwyddwyd i ymgorffori’r trefniadau angenrheidiol ar gyfer castio ac ymarferion. Mae Sian Fouladi, 28, actor â syndrom Down wedi chwarae cymeriad Ceri ers 2017 ac fe'i cefnogwyd mewn ymarferion ac ar y set gan gynorthwy-ydd Artist Niwroamrywiol o Hijinx.
Dywedodd Natasha Hale, Prif Swyddog Gweithredu Bad Wolf, oedd hefyd yn cymryd rhan yn y seminar:
"Mae Bad Wolf wedi ymrwymo i wneud unrhyw beth y gallwn ni i gefnogi actorion ag anabledd dysgu ac rydym yn gyffrous ynglŷn â gweithio gyda Hijinx er mwyn cyflawni hynny." Mae Bad Wolf wedi cynhyrchu nifer o ffilmiau a chyfresi teledu, gan gynnwys A Discovery of Witches - drama boblogaidd Sky am fampirod, gwrachod a ffanatasi.
Yn dilyn y seminar, cafodd y gynulleidfa gyflwyniad byr gan actorion Hijinx yn amlinellu'r safonau newydd. Gofynnodd Danny Mannings, 30, actor ag Awtistiaeth, i'r rhai oedd yn bresennol i "roi cyfle i ni fod ar set neu yn y stiwdio, dangoswch i ni sut rydych chi'n gweithio, gadewch inni ddeall eich disgwyliadau."
Natasha Hale, Prif Swyddog Gweithredu Bad Wolf
Cefnogwyd argymhellion Hijinx hefyd gan yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, AC, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon:
"Rwy’n edmygu hyfdra galwad Hijinx am weithredu o fewn y diwydiant sgrin ac yn cefnogi'n frwd eu hamcanion sef cyflwyno adlewyrchiad gwirioneddol o’n cymdeithas ar ein sgriniau. Rwy’n cael fy nghalonogi gan y niferoedd oedd yn bresennol a’r gefnogaeth o du’r diwydiant sgrin ac rwy’n hyderus y gall Cymru, gyda chefnogaeth sefydliadau sy'n cael eu harwain gan anabledd dysgu, arloesi yn y dasg o newid wyneb y sawl gaiff eu cynrychioli ar y sgrin fach a’r sgrin fawr.”
Arglwydd Dafydd Elis Thomas, AC, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon
Er mai dim ond 16% o arian refeniw a gaiff gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae gan Hijinx genhadaeth eang, uchelgeisiol sef ei gwneud yn beth cyffredin gweld mwy o actorion ag anableddau dysgu ar y llwyfan a'r sgrin. Yn ddiweddar, yn sgil sicrhau chwistrelliad ariannol gwerth £235,000 gan Sefydliad Morrisons er mwyn datblygu eu llinyn Ffilm, bydd rhan o'r swm chwe ffigwr hwn yn galluogi Hijinx i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer tair ffilm fer fydd yn rhoi llwyfan i gast o unigolion niwroamrywiol, a hynny dros gyfnod o dair blynedd. Am ragor o wybodaeth am yr argymhellion a'r cymorth sydd ar gael ewch i www.hijinxactors.co.uk.