Twyla Joyce.
Fy enw yw Twyla Joyce, rwy’n gweithio o Gaerdydd fel darlunydd a gwneuthurwr. Rwy’n gweithio o dan yr enw Phoenix Artwork a phan fyddaf yn darlunio, rwy’n gweithio’n bennaf yn ddigidol oherwydd bod hyn yn helpu fy salwch, sef fibromyalgia. Rwyf hefyd yn creu darnau clai resin a pholymer. Ar ôl i mi orffen yn y Brifysgol hoffwn ddod yn ddarlunydd llyfrau comig gan fy mod eisiau eu defnyddio i hybu hawliau anifeiliaid yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Gan fod y rhain yn faterion sy’n agos at fy nghalon, rwyf eisiau chwalu stigma iechyd meddwl a phobl sy’n amharod i siarad amdano. Yna gyda hawliau anifeiliaid rwyf eisiau dryllio mythau ac addysgu pobl.
Instagram: @phoenix_artwork_official